Bwyd i bawb o bobl y byd

Rhifyn 17 - Bwyd
Bwyd i bawb o bobl y byd

Yn 2012 daeth Martha Payne, 9 oed, ac o Lochgilphead, Argyll yn yr Alban yn enwog. Dangosodd  luniau o'i chinio ysgol ar ei blog, Never Seconds ac ysgrifennu sylwadau ar y pryd bwyd a rhoi marc iddo.

marthapayne_496x300.jpg

 

Ceisiodd y cyngor lleol ei rhwystro rhag ysgrifennu mwy o flogiau yn sôn am ei chinio ysgol ond clywodd gwleidyddion a chogyddion enwog fel Jamie Oliver a Raymond Blanc amdani a chafodd gario ymlaen i ysgrifennu.

Ar y blog soniodd am yr elusen i blant yr oedd hi a'i ffrindiau wedi ei sefydlu yn yr ysgol. Roedden nhw'n gwneud sebonau ffelt ac mewn arwerthiant fe godon nhw £70 i Mary's Meals. Roedd hyn yn ddigon i fwydo 7 o blant am flwyddyn gyfan!

Roedd ei blog yn cael ei ddarllen ar draws y byd a gofynnodd rhai pobl sut y bydden nhw'n gallu cefnogi Mary's Meals.Dywedodd hi y gallen nhw gyfrannu arian at yr elusen a galwodd yr ymgyrch yn 'NeverSeconds'. Erbyn hyn mae ei darllenwyr wedi codi'r swm anhygoel o £114,500 at Mary's Meals.

I ddiolch iddi am ei gwaith cafodd Martha ei gwahodd i Ysgol Gynradd Lirangwe ym Malawi i agor cegin yn yr ysgol. Mary's Meals oedd wedi talu am y gegin ac yn bwydo'r 2,000 o ddisgyblion. 'Roedd yn brofiad anhygoel,' meddai a'r plant yn gwerthfawrogi cymaint ac yn wen o glust i glust. Roeddwn i eisiau crio.'

dlawd1.png

Y disgyblion yn canu enw Martha ac yn edrych ymlaen at roi croeso iddi.

Yn ystod yr ymweliad dywedodd Gilbert, 14 oed, sy'n amddifad ac yn ddigartref, 'Rydw i wedi bod yn cysgu yn yr awyr agored ers pan gafodd fy nhad ei ladd gan grocodeil chwe mlynedd yn ôl ond bellach rydw i'n cael bwyd bob dydd ac yn cael addysg, diolch i Mary's Meals. Rydw i'n gobeithio bod yn brifweinidog un dydd a byddaf yn gwella fy ngwlad'.

backpack.jpg

Martha yng nghanol y plant ym Malawi.

Beth ydy 'Mary's Meals'? 

  • Elusen sy'n helpu i baratoi bwyd i blant mewn ysgolion ar draws y byd
  • Sefydlwyd yn 2002 gan Magnus MacFarlane-Barrow, yn Argyll yn yr Alban.
  • Mae'n bwydo dros 600,000 o blant mewn 16 o wledydd e.e. Malawi, Liberia, Kenya a Haiti.
  • Llawer o'r plant yn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf am fod bwyd ar gael yno. Ar gyfartaledd, ar draws y byd,  dim ond  £10.70 mae'n ei gostio i fwydo plentyn am flwyddyn gyfan.
  • Yn Malawi mae'n costio £7 i fwydo plentyn yn yr ysgol am flwyddyn. Am hynny caiff lond mwg o Likuni Phala, uwd gyda soia a fitaminau.  Os mai dyma'r unig beth mae'n yn ei gael mae'n ddigon i'w gadw'n iach.
  • Cyn gallu paratoi cinio mewn ysgol mae'n rhaid adeiladu cegin sy'n costio tua £7000.

GAIR O BROFIAD

Martine, 10 oed.

Rydw i'n mynd i Ysgol Gynradd Hondji  yng Ngorllewin Affrica. Rydw i'n byw gyda fy mam a dau frawd a thair chwaer. Er bod fy mam yn gweithio'n galed dydy hi ddim yn gallu fforddio ein bwydo. Diolch i Mary's Meals rydyn ni'n cael pryd o gorn, ffa, llysiau a physgod yn yr ysgol.

martine.jpg

Chery, 10 oed.

Rydw i'n unig blentyn. Symudodd mam a fi i fyw yn nhref Gonaïves yn Haiti ond doedd dim gwaith i mam yma. Rydw i'n cael cinio am ddim yn yr ysgol ac yn gobeithio bod yn ddoctor.

chery.jpg

Mandida, 12 oed.

Rydw i'n mynd i Ysgol Gynradd Chimvu yn Malawi. Dydw i ddim yn cofio fy rhieni a gyda fy mamgu rydw i a fy mrawd a'm chwaer yn byw. Mae'n anodd cael bwyd bob dydd ond ers pan rydyn ni'n cael bwyd yn yr ysgol mae llai o ffraeo yn ein cartref a does dim rhaid i ni fynd allan i fegera. Rydw i'n gobeithio bod yn gyfreithwraig rhyw ddydd i wella safon byw fy ngwlad.

mandida.jpg

Deepak

3 oed ydy Deepak ac mae'n mynd i Ganolfan Navjeevan yng nghanol slymiau Delhi, India. Mae'n cael cinio Mary's Meals yno bob dydd.  Binky ydw i, ei fam, ac rydw i, a llawer o famau eraill y slymiau yn codi gyda'r wawr bob bore ac yn cerdded i ganolfan addysg i helpu i goginio bwyd i'n plant. Rydyn ni'n credu mai cael bwyd ac addysg ydy'r unig ffordd y gall ein plant wella eu safon byw.

deepak.jpg

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Mary's Meals.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwleidyddion pobl sy'n gweithio gyda gwleidyddiaeth politicians
cogyddion pobl sy'n coginio cooks
elusen achos da charity
arwerthiant gwerthu sale
amddifad heb rieni orphan