Dim diolch!

Rhifyn 17 - Bwyd
Dim diolch!

Alergedd bwyd - y ffeithiau

Dyma rai ffeithiau pwysig am alergedd bwyd:

  • Mae'n rhaid i bobl sy'n cael adweithiau difrifol gael help arbenigol ar frys gan barafeddyg hyfforddedig, fel arfer gyda phigiad o adrenalin.
  • Yn y Deyrnas Unedig, mae tua deg o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i anaffylacsis a achosir gan fwyd.
  • I'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, gall y mymryn lleiaf o alergen bwyd achosi symptomau difrifol, ac mewn rhai achosion, arwain at farwolaeth.
  • Dydy llawer o'r bobl sy'n marw neu'n cael adweithiau 'difrifol iawn' ddim yn gwybod eu bod mewn perygl.

Pa fwydydd sy'n achosi alergedd?

  • Yn Ewrop, caiff alergenau bwyd eu monitro a'u hasesu gan arbenigwyr clinigol a gwyddonol drwy Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA). Maent yn cynghori pa gynhwysion sydd  angen eu nodi ar labeli bwydydd sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw.
  • Dyma rai o'r cynhwysion y mae'n rhaid eu nodi ar labeli os cânt eu defnyddio  mewn bwydydd wedi'u pecynnu:

   pysgnau

   cnau coed

   wyau

   sesame

   llaeth/llefrith

   pysgod

   soia

   grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten

(h.y. gwenith, rhyg, barlys, ceirch, gwenith yr Almaen a kamut)

   mwstard

   seleri

 

Profiad Justin

Mae Justin, sy'n 13 oed yn dioddef o alergedd i gnau mwnci. Ysgrifennodd y blog hwn ar y we yn sôn am ei brofiadau ar wyliau ym Majorca.

Rydw i'n ysgrifennu hwn ar y we er mwyn codi calon pobl ifanc eraill fel fi sy'n dioddef o alergedd cnau. Wedi dweud hynny, rydw i'n cyfaddef fy mod yn lwcus mewn ffordd oherwydd dyna'r unig fath o gneuen sy'n peri problem i fi.

Fis yn ôl aethon ni fel teulu i aros yn y gwesty Delfin Azul yn Alcudia, Majorca  am bythefnos. Roeddem yn cael brecwast a swper yno i arbed y drafferth o fynd i rywle gwahanol bob nos a gorfod gofyn sut roedd bwyd yn cael i gwcio ag ati.
Wythnos cyn i ni fflio roedd fy mam wedi gofyn i'r cwmni awyrennau beidio â syrfio cnau ar yr awyren ond doedd dim posibl gofyn i'r teithwyr fwyta cnau roedden nhw wedi dod gyda nhw. Yn ystod y daith adref fe wnaethant gyhoeddiad dros y tanoi yn gofyn i'r teithwyr beidio â bwyta cnau o gwbl. Mae hyn yn eithaf anghyffredin. Doeddwn i ddim yn teimlo'n annifyr chwaith oherwydd doedd neb yn gwybod mai fi oedd yn dioddef o'r alergedd.A doeddwn i ddim yn edrych yn wahanol i lawer o deithwyr eraill pan oeddwn i'n bwyta brechdannau roedd mam wedi eu paratoi ymlaen llaw.

Roedd gennym ddwy set o  Epipens a thabledi Piriton yn hytrach na ffisyg (oherwydd y rheol 100ml o hylif ). Roedd y ddwy set mewn bagiau plastig 8x8" gyda phresgripsiwn a nodiadau'r doctor. Roedden nhw mewn hand luggage ar wahân rhag ofn i un bag fagu traed!Yr hyn sy'n cael ei gadw ar fy nghyfer yn ystafell feddygol yr ysgol oedd yr ail set ac rydw i wedi mynd ag ef yn ôl yno erbyn hyn.

Pan wnaethon ni gyrraedd yr hotel gofynnodd fy mam pa fath o olew roedden nhw'n ei ddefnyddio i goginio ac fe ddaru nhw ddweud mai dim ond olive oil neu olew llysiau oedd yn cael ei iwsio yn y gegin ac mai'r unig bryd gyda chnau ynddo oedd Cyw Iâr Almwnd. Holodd mam ddim am y pwdinau oherwydd does gen i ddim dant melys o gwbl!

Fe wnes i fwyta'r bara oedd  yn y gwesty oherwydd doedd dim perygl o gnau ynddo ac i frecwast roeddwn i wrth fy modd gyda'r holl fwyd oedd wedi ffrio. Doeddwn i ddim yn bwyta'r cereals.

Cawsom un pryd o fwyd mewn Burger King ble'r oedd rhestr fanwl o 'gallai gynnwys' ar gefn y tray. Roedd hwn mewn Sbaeneg ond roedden ni'n gallu deall digon.

Roeddem yn prynu'r rhan fwyaf o'n snacks o'r siop Spar gerllaw'r gwesty gan bod llawer o fwydydd Prydeinig yno a'r cynhwysion wedi eu labelu yn Saesneg. Bwydydd wedi eu pacedu'n barod oeddem ni'n eu bwyta rhag ofn! Wedi'r cyfan, doeddwn i ddim am gael fy rhuthro'n anymwybodol i ysbyty ble'r oedd y nyrsus i gyd yn siarad Sbaeneg!

Felly, diolch i ofal fy rhieni cefais wyliau hollol ddi-drafferth o ran fy alergedd i gnau mwnci ac mae'r gwyliau wedi profi y gallaf, pan fyddaf yn hŷn, fynd ar wyliau gyda fy ffrindiau cyn belled â'm bod yn ofalus!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
adweithiau ymateb reaction
hyfforddedig wedi cael ei hyfforddi trained
anaffylacsis ymateb yn eirhafol i rywbeth anaphylaxis
anymwybodol ddim yn gwybod beth sy'n digwydd unconscious