Masnach Deg

Rhifyn 17 - Bwyd
Masnach Deg

masnachdeg.jpg

Ydych chi'n adnabod y label neu'r logo hwn? Ie, un Masnach Deg ydy e. Mae e'n golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. I rai, parrot ydy e,  i eraill deilen werdd. Mae rhai yn gweld y tro du yn y canol fel ffordd yn arwain at ddyfodol gwell. Yr eglurhad mwyaf poblogaidd ydy mai'r bobl yng nghanol y system Masnach Deg sy'n cael eu cynrychioli - ffermwr yn dangos ei gynnyrch, siopwr yn prynu neu rywun sy'n brwydro dros ffermwyr sy'n dioddef.

Beth ydy Masnach Deg?

Mae 'Masnach Deg' yn golygu bod ffermwyr mewn gwledydd tlotach yn cael pris teg am eu nwyddau. Mae hyn yn golygu bod y ffermwyr yn cael o leiaf 60% o'r elw.

Goffi Cydweithredol Gumutindo

Mae gan Goffi Cydweithredol Gumutindo gyswllt agos â Chymru - mae'n ardal yn Uganda sydd wedi gefeillio â Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru.

Mae rhai o Gymru wedi bod i weld y ffermydd coffi yn Gumutindo a rhai o ffermwyr Gumutindo wedi ymweld â Chymru.

Mae 3034 ffermwr yn rhan o'r ymgyrch gydweithredol. Mae mwyafrif y ffermwyr yn ffermio tua 0.2 hectar o goffi ac maen nhw i gyd bron yn ffermwyr organig. Mae nifer o ffermwyr eraill yn yr ardal yn gweithio i wella safon eu cynnyrch fel eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn rhan o'r fenter. 

Pam ffermio yma?

Yn nwyrain Uganda mae Coffi Cydweithredol Gumutindo wedi'i leoli, ar lethrau deheuol Mynydd Elgon.

pamffermioyma.png

Mae'r pridd folcanig ffrwythlon a'r hinsawdd i'r dim ar gyfer tyfu coffi o safon uchel. Yr enw ar y ffermydd bychain sydd gan y ffermwyr ydy Shambas. 

Cadw'r tir yn ffrwythlon

Maen nhw'n plannu'r coffi am yn ail â chnydau bwyd eraill fel cassafa, ffa, bananas, tatws melys ac afocado. Mae'r cnydau yma i gyd yn tyfu ar yr un pryd. Mae hyn yn gwella'r pridd,  ac yn rhoi cysgod i'r coed coffi.

cadwtirynffrwythlon_499x375.jpg

Sut mae coffi'n cael ei ffermio?

Wrth gynaeafu mae'r ffermwyr yn casglu'r ceirios coch aeddfed o'r coed coffi. Mae'r ceirios yn cael eu mwydo mewn dŵr cyn eu bwydo â llaw drwy beiriant pwlpio. Mae hyn yn gwahanu'r ffa a'r pwlp allanol. Mae'r ffa yna yn cael eu gadael ar raciau i sychu yn yr haul. Enw'r ffa nawr ydy coffi memrwn (parchment coffee) oherwydd ei olwg sych fel papur. Mae wedyn yn cael ei anfon i warws Gumutindo i gael ei brosesu.

bottomimageffermiobwyd.png