Pwy sy'n bwyta sothach?

Rhifyn 17 - Bwyd
Pwy sy'n bwyta sothach?

Pwy sy'n Pwy sy'n bwyta'n iach a phwy sy'n bwyta'n afiach? Plant, yn sicr, sy'n bwyta'n afiach. Nhw sy'n mynd i lefydd bwyd cyflym ac yn llenwi eu boliau gyda braster, meddai oedolion. Ond ydyn nhw'n iawn? 

Astudiwch y graffiau hyn sy'n dangos canlyniadau arolygon o hoff fwydydd oedolion a phlant ym Mhrydain:

plant_497x280.jpg

Pasta a phesto ddaeth i'r brig fel hoff fwyd plant gan guro caws macaroni. Mae'r  pryd gwyrdd yn fwy poblogaidd na phizza, hyd yn oed, yn ôl arolwg gafodd ei wneud gan Ŵyl Bwyd y Plant.

A beth oedd dewis oedolion?

oedolion_500x288.jpg

Diddorol ynte? Daeth ffefryn yr oedolion - tatws a selsig yn bumed gyda'r plant a dim ond 3% o bleidleisiau'r plant gafodd pysgod a sglodion (oedd yn yr ail safle gydag oedolion!) a does dim sôn am fyrgyrs a bwyd jync ar y rhestrau o gwbl!

Ie, bwyd traddodiadol ydy'r ffefryn yn ôl yr arolwg o arferion bwyta 3000 o oedolion ym Mhrydain gan Sianel UKTV Good Food! Anghofiwch am y bwydydd ffansi ac egsotig - yr hyn mae oedolion ei eisiau ydy pysgodyn a sglodion a ffa pôb ar dôst ac mae'r rhain yn gymharol rhad ac yn flasus!

Ond, canlyniad y math yma o fwyta ydy bod 75% o'r bobl a gafodd eu holi yn cyfaddef eu bod wedi ennill chwe phwys yn ystod y chwe mis diwethaf!