Darllenwch y ddwy gerdd yma sy'n sôn am yr un lle - glan y môr.
Ar lan y môr mae rhosys cochion;
Ar lan y môr mae lilis gwynion;
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Traddodiadol
Penillion Ar Lan y Môr
Ar lan y môr, mae tuniau rhydlyd
Ar lan y môr, mae sbwriel hefyd,
Ar lan y môr, mae bagiau plastig
Ac olew du ar garreg lithrig.
Ar lan y môr, mae gwylan gelain
Fu'n hedfan ar adenydd buain:
Yn awr, mae'n gorwedd ar y tywod,
Ymhlith y baw a'r holl ffieidd-dod.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
rhydlyd | sy’n rhydu | rusting |
llithrig | ansoddair o “llithro” | slippery |
gelain | corff wedi marw | corpse |
buain | lluosog buan – cyflym | quick, fast |
baw | budreddi | dirt |
ffieidd-dod | pethau ffiaidd | disgusting things |
inne | innau; ffurf bwysleisiol ar ‘i’ (fi) | my |