Blwyddyn newydd dda!

Rhifyn 2 - Dathlu
Blwyddyn newydd dda!
Loading the player...

Yn Gymraeg rydyn ni'n galw diwrnod cyntaf y flwyddyn yn ddydd Calan. Mae'r gair Calan yn golygu y cyntaf o rywbeth ac felly dydd Calan ydy'r enw ar Ionawr y 1af. 

Dyma sut byddai pobl yn dathlu dydd Calan ers talwm.

drws-ar-agor-2.jpg

Llun uchod: R. Fiend 

Y Fari Lwyd

Penglog ceffyl wedi'i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari Lwyd. Byddai'r penglog yn cael ei roi ar bolyn er mwyn i'r person oedd o dan y lliain allu agor a chau'r geg.

Fel rhan o ddathliadau'r flwyddyn newydd, byddai grŵp o ddynion yn mynd â'r Fari o gwmpas yr ardal ac yn galw ym mhob tŷ neu dafarn. Bydden nhw'n canu penillion hwyliog fel yr un yn y clip sain, yn gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb. Roedd gwrthod i'r Fari Lwyd ddod i'r tŷ yn anlwcus. Yn y tŷ, byddai'r grŵp yn cael hwyl ac yn cael bwyd a diod.

Roedd penglog y ceffyl yn cael ei baratoi yn ofalus. Bydden nhw'n ei gladdu mewn calch am dri mis ac yna ei sgwrio'n lân. Wedi hynny, byddai'n cael ei wisgo a'i addurno.

Weithiau, mae pobl yn ailgreu'r hen draddodiad heddiw! 

Calennig

Ers talwm, byddai plant bach yn mynd o dŷ i dŷ ar fore cyntaf y flwyddyn newydd yn casglu calennig. Arian neu anrhegion oedd calennig. Roedd yn rhaid gwneud hyn cyn hanner dydd a byddent yn canu'r pennill hon:

Blwyddyn newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ,
Dyma fy nymuniad i,
Blwyddyn newydd dda i chi.

Os na fyddent yn cael calennig, byddent yn canu:

Blwyddyn newydd ddrwg,
Llond y tŷ o fwg!

Mewn rhai rhannau o Gymru, mae rhai plant yn dal i gasglu calennig ar fore Dydd Calan. 

Coelion Calan

Ers talwm roedden nhw'n credu'r pethau yma:

  • Mae beth rydych chi'n ei wneud ar ddydd Calan yn penderfynu beth fyddwch chi'n ei wneud gweddill y flwyddyn.
  • Ni ddylech roi benthyg arian i neb na benthyg arian eich hun neu dyna fyddwch chi'n ei wneud weddill y flwyddyn.
  • Dylai pob dyled fod wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddwch mewn dyled am flwyddyn gyfan.
  • Mae dyn gyda gwallt tywyll yn dod i'ch tŷ fore Calan yn dod â lwc dda i'r cartref drwy'r flwyddyn.
  • Dylai'r dyn hwn gario darn o lo, tafell o fara a darn o arian i ddod â lwc dda iawn, iawn i chi.
  • Mae hi'n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf.
Afal lwcus!

afal.jpg 

Cyn casglu calennig, byddai'r plant yn addurno afal er mwyn ei gario gyda nhw. Yr enw ar hwn oedd 'perllan'. Roedd yn dod â lwc dda.

Fe fydden nhw'n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o gnau almon yn cael eu gosod yn yr afal a dail bytholwyrdd, fel celyn, yn cael eu gosod ar ei ben.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
penglog esgyrn y pen a'r wyneb skull
lliain darn o ddefnydd cloth
calch sylwedd a gâi ei ddefnyddio i liwio pethau'n wyn lime
sgwrio sgrwbio, golchi scour
bytholwyrdd dail sy'n aros yn wyrdd drwy'r flwyddyn evergreen