Y flwyddyn newydd yw'r dathliad hiraf a phwysicaf yn Tsieina. Yn Tsieina, nid 2012 fydd hi eleni, ond 4710 a bydd yn dechrau ar Ionawr 23ain. Bydd pobl yn cymryd wythnos o wyliau i baratoi ar gyfer y dathliadau.
Yn ôl y chwedl, gofynnodd Bwdha i'r anifeiliaid ddod i'w gyfarfod ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn. Daeth 12 anifail ato ac enwodd flwyddyn ar ôl pob un. Dywedodd y byddai pobl yn cael rhai o nodweddion anifail y flwyddyn roedden nhw wedi cael eu geni ynddi.
Mae diwrnod cyntaf y flwyddyn Tsieineaidd yn newid o flwyddyn i flwyddyn:
2010 - 14 Chwefror
2010 - 14 Chwefror
2011 - 3 Chwefror
2012 - 23 Ionawr
2013 - 10 Chwefror
2014 - 31 Ionawr
Cofiwch fod blwyddyn y Tsieineaid yn cychwyn tua chanol mis Ionawr!
Yn y dathliadau bydd y Tsieineaid yn gwisgo dillad coch wedi eu haddurno gyda barddoniaeth ar bapur coch ac mae'r plant yn cael 'arian lwcus' mewn amlenni coch o'r enw hong bao. Symbol o dân ydy coch ac mae'n gallu eich gwarchod rhag lwc ddrwg medden nhw. Dyna'r rheswm dros y tân gwyllt sy'n tasgu dros y gweithgareddau. Yn y gorffennol byddai'r Tsieineaid yn tanio coesau bambŵ gan gredu y byddai'r sŵn craclo yn dychryn ysbrydion drwg!
Blwyddyn y Ddraig ydy 2012. Mae'r rhai sydd wedi cael eu geni ym mlwyddyn y ddraig i fod yn greadigol, yn ddewr ac yn gariadus.
Cafodd Salvador Dali, John Lennon a Mary Louise Parker eu geni ym mlwyddyn y ddraig.
Cynhelir Gŵyl y Llusern ar y 15fed diwrnod o'r mis lleuad llawn cyntaf. Mae rhai o'r llusernau yn gywrain iawn gyda phaentiadau o adar, anifeiliaid, blodau, arwyddion y zodiac a golygfeydd o chwedlau a hanes. Byddant yn cael eu hongian y tu mewn a'r tu allan i adeiladau ac yn cael eu cario ar y stryd.
Mewn sawl ardal, uchafbwynt Gŵyl y Llusern ydy dawns y ddraig. Gwneir y ddraig o sidan a bambŵ a gall fod yn 100 troedfedd o hyd. Bechgyn ifanc fydd, ran amlaf, yn ei chario gan ddawnsio ar hyd y stryd.
Y bwyd mwyaf poblogaidd ydy jiaozi sef dwmplenni wedi eu stemio neu eu berwi mewn dŵr. Paratoir hwy Noswyl y Flwyddyn Newydd a chânt eu bwyta, unwaith y bydd yn taro hanner nos, gyda saws soy garlleg. Yn aml iawn bydd darn o arian yn cael ei guddio yn un ohonynt a'r gred ydy y daw â lwc dda i'r person sy'n ei ffeindio!
Credir hefyd fod ysbryd cyndadau'r teulu yn y wledd a chaiff bwyd ei baratoi iddyn nhw hefyd!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Bwdha | enw sylfaenydd Bwdhaeth | Buddha |
llusern | lamp gyda handlen a defnydd tryloyw yn gwarchod y golau | lanten |
noswyl | noson cyn gŵyl arbennig | eve |
cyndadau | perthnasau pellach yn ôl na nain a thaid | ancestor |