Stori fer

Rhifyn 2 - Dathlu
Stori fer

Doedd pethau ddim wedi bod yn rhedeg yn esmwyth rhwng Iwan a Lisa yn ddiweddar. Roedd hi a'i ffrindiau wedi mynd ar nerfau Iwan yn nawns Calan Gaeaf yr ysgol. Roedden nhw wedi gwisgo fel gwrachod a pheintio eu dannedd yn felyn ac yn ceisio codi ofn ar bawb. Smaliai Buddug hedfan ar draws yr ystafell gan grawcian chwerthin yn gras, 'Mae hi'n noson Calan Gaeaf, ac mae Cŵn Annwn, y cŵn bychain llwytgoch yna o gwmpas, yn cael eu harwain gan y Diafol!'

 'A gwyliwch yr holl ysbrydion fydd yn atgyfodi!' llefodd Lisa, 'heb sôn am y gwrachod yn eu hetiau pigfain gyda'u picellau o ewinedd yn barod i rwygo eich llygaid o'u socedi!'

                                                     ***

Cafodd Iwan ddigon ar eu ffwlbri ac aeth allan o'r neuadd am ychydig o lonydd ac awyr iach. Roedd hi'n dywyll fel y fagddu heb lygedyn o olau lleuad - priodol iawn ar gyfer cychwyn y gaeaf, meddyliodd. Ymlwybrodd tuag at un o'r byrddau picnic oedd ar lawnt yr ysgol gan anelu at olau'r tair cannwyll oedd ar y bwrdd.

Fel roedd yn pedroni am Lisa gwelodd gysgod merch ifanc yn llithro tuag ato a heb feddwl dwywaith amneidiodd arni i eistedd gydag ef wrth y bwrdd.

Aros ar ei thraed wnaeth hi gan syllu mewn tawelwch ar Iwan. Heb yngan gair, gosododd focs pren ar y bwrdd. Edrychai mor hen â phechod gyda'i gorneli'n fratiog a'r clo wedi rhydu. Ddywedodd hi ddim am amser maith, dim ond dal i syllu fel anifail yn mesmereiddio ei ysglyfaeth.

                                                     ***

Aeth amser heibio ... Toddodd y canhwyllau ... Anghofiodd Iwan am bawb a phopeth ond y ferch ... Syllodd i ddyfnderoedd di-waelod ei llygaid ... Meddyliodd na fyddai hi byth yn siarad. Pan lefarodd ymhen hir a hwyr, roedd ei geiriau yn feddal ond yn gyrru iasau i lawr ei asgwrn cefn.

'Yr wyf i am i ti fy lladd i.'

Ffaith syml, hollol ddi-deimlad.

Deffrodd Iwan o'i lesmair.

'Be? Argol! Fedra i ddim!'

'Yr wyf i wedi blino. Yr ydwyf wedi byw ers canrifoedd ac nid ydwyf wedi newid dim tra bo pawb o'm cwmpas yn tyfu, yn syrthio mewn cariad, yn mynd yn hŷn ac yna'n huno hyd byth.'

'Alla i ddim credu nghlustiau!' meddai Iwan gan godi o'i gadair a dechrau  brasgamu nôl ac ymlaen. 'Pam fi?'

'Yr wyt ti yn deall,' sibrydodd.

Ond sut gwyddai hi ei fod yn deall? Sut gwyddai hi fod Iwan wedi clywed ei dadcu yn dweud ddwsinau o weithiau ei fod wedi blino byw ac erfyn ar ei deulu i'w helpu i farw. Hwythau'n gwrthod.

'Ond dydw i ddim yn gwybod pwy wyt ti na dim!'

'Pam wyt ti'n aros yma ynteu? Pam nad aethost ti yn ôl i'r neuadd at y gweddill? Pam nad aethost ti adre yr un pryd â hwy? Nid oes neb yn y neuadd bellach! Edrych! Clowyd y drws!'

                                                     ***

Fedrai Iwan ddim credu ei lygaid. Doedd dim smic yn dod o gyfeiriad y neuadd ac roedd y lle fel bol buwch. Ble'r oedd pawb?

'Mae'r ddawns wedi hen orffen,' meddai'r ferch gan ateb y cwestiwn oedd ym mhen Iwan. Agor y bocs yma i gael gweld sut y gelli fy lladd!' Estynnodd ei llaw at y bocs gan ei chadw yn fflam y gannwyll oedd wedi ail-fflamio ohoni ei hun. Roedd ei llaw yn oer fel rhew pan afaelodd yn llaw Iwan.

'Gwyddost pa noson yw hi heno, y noson pan fo'r ffin rhwng byw a marw deneuaf, y noson y gallwn weld y gorffennol a'r dyfodol ...'

'Ond dydw i ddim yn credu mewn rhyw ofergoelion twp fel'na! A dydw i ddim yn llofrudd!'

'A wyt ti'n sicr? Yn berffaith sicr?'

Gallech dorri'r distawrwydd a ddilynnodd gyda chyllell.

Fel robot, gadawodd Iwan i'r ferch arwain ei ddwylo crynedig at gaead y bocs...

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
pigfain gyda phen main pointed
picell arf miniog pike, spear
pendroni meddwl yn ddwys brood
bratiog hen, tyllog ragged
mesmereiddio swyno, dal sylw rhywun mesmerize
ysglyfaeth anifail a gaiff ei hela a'i ladd prey
llesmair cyflwr hanner ymwybodol trance
ofergoel credu mewn pethau goruwchnaturiol superstition