Parti mawr, mawr!

Rhifyn 2 - Dathlu
Parti mawr, mawr!

Fel rhan o'r gweithgareddau i ddathlu canmlwyddiant Ysgol Llwyndu, penderfynodd Pwyllgor Bywiogi Llwyndu drefnu parti mawr yn y pentref.

Aeth ein gohebydd, Ianto Wyn yno i ymuno yn y dathliadau am 2 o'r gloch, pnawn Sadwrn, Mehefin 3ydd, 2011.


Ianto: Rydw i yma ym mharc chwarae Llwyndu yng nghanol miri a hwyl y parti a gyda mi mae cadeirydd  Pwyllgor Bywiogi Llwyndu, Gruffydd Huws. Mae hi'n amser llawenhau i chi yma, Mr Huws.

Gruffydd: Ydy, wir. Mae pawb wrth eu bodd. Mae'n anhygoel bod yr ysgol yma wedi bod yn galon i'r gymuned ers can mlynedd bellach! Felly, dyma benderfynu dathlu!

Ianto: Pam lai! Ac mae'r tywydd yn fendigedig! Dim ond gobeithio y gall pawb ein clywed ni!

Gruffydd: Wel ie! Roedden ni'n meddwl y byddai cynnal y parti yma ym mharc chwarae'r plant yn osgoi sŵn y traffig, ond mae'r gerddoriaeth braidd yn uchel! Wrth hysbysebu'r parti fe ofynnon ni i bawb sy'n byw wrth ymyl y parc roi'r radio ymlaen ar yr un sianel ac agor eu ffenestri! Efallai bod hynny'n gamgymeriad! Maen nhw i fod i'w diffodd pan fydd y gweithgareddau yn cychwyn!

Ianto: Sut aethoch chi o'i chwmpas hi i drefnu popeth?

Gruffydd: Yn gynta fe fuon ni'n rhannu pamffledi ac yn gosod posteri ym mhob man. Roedden ni'n gofyn am wirfoddolwyr ac fe gawson ni andros o lot o help wedyn. Gofynnodd un ferch ifanc a fydden ni'n hoffi cael baneri allan o hen ddefnyddiau a chasglodd hi griw o ffrindiau at ei gilydd i wnio, smwddio a pheintio baneri ac fel y gwelwch chi maen nhw'n lliwgar dros ben. Mam arall gafodd y syniad o yrru'r plant o gwmpas y tai i holi am hen botiau (na fyddai'n torri) i ddal blodau. Cafodd y plant ganiatâd wedyn i fynd i gasglu blodau gwyllt ac fel y gwelwch maen nhw'n edrych yn broffesiynol iawn!

fete2.jpgIanto: Ond sut ar y ddaear oeddech chi'n trefnu'r holl fwyd? Fyddai hi ddim wedi bod yn haws i bawb ddod â'i bicnic ei hun?

Gruffydd: Fe fuon ni'n trafod cryn dipyn ar hyn'na ond fe ddaethon ni i'r casgliad efallai y byddai pobl yn cystadlu â'i gilydd ac y byddai'n achosi drwg deimlad. Felly, yr hyn wnaethon ni oedd gofyn ar y posteri am addewidion. Roedden ni wedi gosod y bwyd mewn pedwar categori sef ryseitiau cawl a salad, ryseitiau dip, bwyd poeth a phwdinau melys. Y cyfan oedd angen wedyn oedd darganfod beth oedd pawb wedi ei addo rhag i ni gael gormod o'r un peth!

Ianto: Mae yna fwydydd blasus ac anghyffredin iawn i'w gweld yma beth bynnag.

Gruffydd: Oes. Salad betys, ffeta a roced ydy hwn, a dyma i chi salad bistro gyda dresin caws, a chacennau bach bendigedig...

Ianto: Mae'r cyfan yn tynnu dŵr i 'nannedd i! Fedra i ddim aros i gael eu blasu! Roeddech chi'n sôn y bydd gweithgareddau y pnawn yma, ond mae'r plant wrthi'n brysur yn barod.

Gruffydd: Ydyn, maen nhw wedi bod yn adeiladu deniau ers tua hanner dydd. Mi fydd gwobr i'r grŵp sy'n ennill. Mae'r plant lleiaf wedi bod yn chwarae gemau bwrdd ac yn peintio. Ar gyfer y pnawn yma rydyn ni wedi rhannu'r pentref yn dimau wedi eu selio ar rifau tai neu oedran (odrifau yn erbyn eilrifau neu 1-10 oed, arddegau, tridegau, pedwardegau ac ati). Mi fydd aelodau'r timau yn gwisgo bandiau lliw ar eu breichiau er mwyn gwybod pwy ydy pwy.

Ianto: Rydych wedi meddwl am bopeth! Ac mae'r bwrdd yna dan ei sang o wobrau!

Gruffydd: Ydy! Mae pawb wedi bod yn hynod o hael. Unwaith y gwelson nhw'r geiriau 'Gemau i bawb o bob oed!' a 'Gwobrau!' ar y posteri, roedd pawb am y cyntaf i gynnig rhywbeth i ni.

Ianto: Pa fath o gemau ydych chi wedi eu trefnu?

Gruffydd: Yr arferol - criced, pêl-droed, helwyr-casglwyr, gêm y bomiau dŵr, pêl swigen ac ambell un rydych chi'n rhy ifanc i'w chofio efallai fel 'It's a Knockout!'

Ianto:  Dydy hynny ddim gwahaniaeth, rydw i'n siwr o fwynhau! Pob lwc i chi!

                                                        ***

Os oes gennych chi luniau o ddigwyddiad tebyg yn eich pentref, eich tref neu eich dinas chi, beth am eu hanfon nhw atom yn #gweiddi.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llawenhau teimlo'n hapus iawn to rejoice
smwddio stilo, gwneud dillad yn llyfn to iron
betys llysieuyn coch tywyll beetroot