Cwestiwn cyffredin. Cwestiwn sy'n cael ei ofyn a'i ateb o hyd ac o hyd. Ond sut mae ateb y cwestiwn yma i'r plant mae eu tadau wedi cael eu lladd? Sut mae ei ateb i'r 285 o blant sydd wedi colli rhiant ers i filwyr Prydain fynd i Afghanistan yn 2001: 102 yn Irac a 183 yn Afghanistan?
A sut fywyd mae plant i filwyr yn ei gael? Ydy plant eraill yn eu hedmygu? Ydy plant eraill yn eiddigeddus ohonyn nhw? Ydy plant y milwyr yn meddwl eu bod yn well na phlant eraill?
Straen. Poeni y bydd eu tad yn cael ei ladd gan y Taliban. Eu tad oddi cartref am gyfnodau hir. Gorfod help eu mam a chael mwy o gyfrifoldebau. Delio gydapost-traumatic stress disordereu tad.
Dyna sut fywyd sydd gan blant y milwyr sy'n ymladd yn Afghanistan yn ôl y rhaglen ddogfen Children of Soldiers gan Claire Corriveau.
Mae'r rhaglen yn mynd i dai pedwar teulu sy'n byw yng nghanolfan Byddin Canada ger Ontario. Mae'r hyn sy'n cael ei ddarganfod yn rhoi tipyn o sioc i'r gwylwyr sydd wedi arfer gweld swsian a chwtsio wrth i'r teuluoedd groesawu'r milwyr adref.
Un teulu oedd teulu'r milwr Scott Mills. Dywedodd ei fab, Evan Mills, ei fod yn caru ei dad ond bod bywyd yn haws pan oedd ei dad i ffwrdd gan ei fod yn gweiddi cymaint. "Mae'n ein trin ni fel mae'n trin y milwyr,' meddai.
Dywedodd Madeline Mills, ei ferch, nad oes ganddi ddiddordeb mewn ymuno â'r fyddin oherwydd, ' does dim gobaith ennill beth bynnag'.
Mae Scott Mills yn cyfaddef fod bywyd yn "roller-coaster ride" i deulu.
Teulu arall sy'n cael ei bortreadu ydy teulu Sgt. Greg Kruse, gafodd ei ladd gan ddyfais ffrwydrol ddeuddydd wedi'r Nadolig 2008.
Doedd Corriveau ddim yn bwriadu beirniadu'r fyddin ond roedd arni eisiau talu sylw i'r problemau oedd yn wynebu'r teuluoedd. Dywedodd eu bod fel pe baent yn byw ar dir neb, 'Unwaith mae problem maen nhw'n cael eu gadael ar eu pen eu hun.'
Bu'n flwyddyn cyn i'r teuluoedd ymddiried ynddi. Ac roedd y plant yn dal yn amheus iawn ohoni. 'Mae'r ofn - sut bydd hyn yn effeithio ar yrfa fy nhad? - bob amser ar eu meddwl.'
Mae'r hyn sy'n cael ei ddangos yn y ffilm yn gwneud i ni feddwl sut mae plant milwyr Prydain yn teimlo.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Ymdopi | llwyddo | to manage |