Medal sy'n cael ei chyflwyno am ddewrder eithriadol mewn brwydr ydy Medal y Fictoria Cross. Sut ar y ddaear y gallodd neb ennill dwy fedal heb danio'r un gwn? Wel, dyma i chi hanes Noel Chavasse o Lerpwl.
Pasiodd Noel yn llawfeddyg yng Ngholeg y Drindod Rhydychen, a phan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, ymunodd gyda'r Liverpool Scottish Regiment, fel is-gapten a llawfeddyg. Ym mis Tachwedd cafodd ei gatrawd ei hanfon i'r Ffrynt Orllewinol (Western Front, sef llinell flaen y frwydr yng ngwlad Belg a Ffrainc).
Ceisiodd gael cyfleusterau ymolchi i'r milwyr a gwnaeth waith arloesol yn defnyddio pigiadau rhag tetanws er mwyn lleihau'r risg o haint oherwydd briwiau.
Roedd hefyd yn credu'n gryf mewn paratoi gofal ysbyty a chyfnod gwella i unrhyw filwr a oedd yn dioddef o iselder ysbryd neu nervous breakdown. Yr adeg hynny roedd salwch felly yn cael ei adnabod fel shell shock ac roedd y milwyr oedd yn dioddef ohono yn cael eu hystyried yn llwfr.
Ym mis Mawrth 1915, fe gymrodd ei gatrawd ran yn yr ymosodiad yn Ypres yn Ffrainc, lle cafodd nwy gwenwyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Erbyn mis Mehefin 1915 dim ond 142 o ddynion allan o'r 829 o ddynion a gyrhaeddodd yr un pryd â Chavasse oedd ar ôl. Roedd y gweddill wedi eu lladd neu wedi eu hanafu'n ddifrifol.
Ym mis Mehefin 1915, bu ei gatrawd yn ymladd ym Mrwydr Hooge, yng ngwlad Belg. Gwaith y cynorthwywyr meddygol oedd mynd i dir neb (y rhan o dir rhwng y byddinoedd) yn y nos i chwilio am y dynion oedd wedi eu hanafu. Ond byddai Noel yn mynd yno ei hun. Am wneud pethau ychwanegol fel hyn cafodd ei wobrwyo â'r fedal Military Cross.
Ym mis Awst 1916, aeth ei gatrawd i ymosod ar dref Guillemot yn y Somme. Y diwrnod cyntaf, gofalodd Noel am y rhai oedd wedi eu hanafu, allan yn y man agored yng nghanol y tanio, a hynny'n aml yng ngolwg y gelyn. Yn ystod y noson honno bu'n chwilio am y rhai oedd wedi eu hanafu ar y tir yn union o flaen llinell y gelyn. Er iddo gael ei anafu wrth i ddarnau o siel ei daro yn ei gefn daliodd ati'r diwrnod wedyn , a mynd hefyd i'r ffosydd blaen a chariodd filwr oedd wedi'i anafu'n ddifrifol i ddiogelwch tua 500 metr i ffwrdd. Yr ail noson aeth â pharti o 20 o wirfoddolwyr gydag ef a mentro i dir neb gan basio o fewn 20 metr i linell flaen yr Almaen er mwyn achub tri dyn arall oedd wedi'u hanafu. Ar ben hynny, yng nghanol cawodydd bwledi'r gelyn llwyddodd i gladdu cyrff dau swyddog oedd wedi'u lladd, a chasglu sawl disg adnabod. Am hyn, cafodd ei fedal Victoria Cross gyntaf .
Oherwydd ei friwiau treuliodd Noel gyfnod mewn ysbyty, ond ymhen blwyddyn wedyn, bron, ar 31 Gorffennaf 1917, roedd gyda'i fyddin yn Nhrydedd Brwydr Ypres. Cafodd ei daro yn ei ben gan ddarn o siel,ond er eu bod yn poeni ei fod wedi cracio asgwrn ei benglog gwrthododd fynd i'r ysbyty. Am ddau ddiwrnod, fe fynnodd fynd i faes y frwydr, heb orffwys na bwyta, ac achub a thrin milwyr oedd wedi cael eu hanafu. Am hyn, derbyniodd ei ail fedal Victoria Cross.
Am dri o'r gloch y bore ar 2 Awst, tra roedd yn ceisio gorffwys ychydig, fe ddisgynnodd siel ar y man lle'r oedd Noel yn gweithio. Cafodd ei anafu'n ddrwg iawn. Llwyddodd i lusgo'i hun i dwll ymochel ond ymhen dau ddiwrnod, am 1 o'r gloch bnawn Sadwrn, 4 Awst 1917, bu farw.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Llawfeddyg | meddyg sy’n rhoi llawdriniaeth | surgeon |
Catrawd | adran o fyddin | regiment |
Cyfleusterau | toiledau / tai bach | coveneinces |
Arloesol | torri tir newydd | pioneering |
Llwfr | di asgwrn cefn | cowardly |
Anafu | brifo | to wound |
Disg adnabod | ffordd o adnabod | identity disc |
Fe fynnodd | roedd yn benderfynol o fynd | he insisted |