Edrychwch ar y llun yma'n ofalus. Ydy e'n eich atgoffa chi o lun arall?
|
Mae'r llun yn barodi o'r Mona Lisa gan Leonardo da Vinci.
Edrychwch yn ofalus arno eto. Allwch chi weld pa ddeunyddiau sydd wedi eu defnyddio i greu'r llun?
Edrychwch ar y lluniau yma hefyd - efallai y bydd y rhain yn eich helpu chi i ddod o hyd i gyfrwng y gwaith.
famMae rhai artistiaid yn defnyddio olew yn eu gwaith; mae rhai'n defnyddio pastel; mae rhai artistiaid yn ailgylchu deunyddiau wrth iddyn nhw greu campwaith ond mae Larry Moss, a'i bartner dylunio Kelly Cheatle, yn defnyddio cyfrwng gwahanol iawn - maen nhw'n defnyddio balwnau! Edrychwch eto - allwch chi weld y balwnau?
Beth yw'r enw ar y grefft yma?
Airigami yw'r gair mae'r ddau artist yma'n ei ddefnyddio am eu crefft. Mae'n gyfuniad o gerflunio, darlunio ac origami - y grefft o wneud modelau o bapur.
Beth sy'n ysbrydoli'r artistiaid yma?
Mae'r ddau artist yn cael eu hysbrydoli gan weithiau rhai o artistiaid enwocaf y byd.
Mae'r llun yma'n barodi o'r llun enwog, Y Ferch â Chlustdlws perl gan Johannes Vermeer. Chwiliwch am y llun gwreiddiol, The Girl with a Pearl Earring, ar y we.
Beth arall maen nhw'n ei wneud?
Mae'r ddau artist yn creu cerfluniau mawr allan o falwnau er mwyn eu gosod mewn digwyddiadau arbennig fel priodasau ac ati. Dychmygwch fynd i briodas a gweld cerflun mawr lliwgar o'r priodfab a'r briodferch wedi ei greu o falwnau.
Yn anffodus, dim ond am tua 5-7 diwrnod y mae'r gwaith yn para gan ei fod wedi ei greu o falwnau. Os yw cwsmer eisiau darn sy'n para am fwy na hynny, rhaid cael artistiaid wrth law i ailadeiladu'r gwaith pan fydd angen.
Yn ogystal, mae Larry Moss yn cynnal gweithdai celf. Mae e'n meddwl bod y rhain yn bwysig iawn oherwydd bod pobl yn dod at ei gilydd i gydweithio mewn prosiect arbennig ac mae cydweithio'n bwysig iawn.
"Pan fydd pobl yn sefyll yn ôl i edmygu eu gwaith a dweud, 'Waw, mi wnes i helpu gyda'r prosiect yma!', mae'n gallu gwneud iddyn nhw ddechrau meddwl pa brosiectau eraill y gallen nhw gydweithio arnyn nhw," meddai.
Un enghraifft o hyn yw'r cerflun isod a gafodd ei greu ym Mol, Gwlad Belg, yn y flwyddyn 2000. Daeth 24 o artistiaid o 11 gwlad at ei gilydd i greu'r gwaith hwn a rhyngddyn nhw roedden nhw'n siarad 7 iaith. Er eu bod nhw'n dod o gefndiroedd gwahanol, roedd un peth yn eu huno - y prosiect.
Torrodd y gwaith hwn record y byd am y cerflun mwyaf yn y byd sydd wedi ei wneud o falwnau sydd ddim yn grwn. Roedd 40,781 o falwnau yn y gwaith ac mae cofnod ohono yn The Guinness Book of World Records.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
atgoffa | gwneud i chi gofio | to remind |