Gwaith gwahanol

Rhifyn 21 - Gwahanol
Gwaith gwahanol

Tama yw fy enw i. Dw i'n dod o Kinokawa, Wakayama, yn Japan. Cefais fy magu yn agos iawn i orsaf Kishi ac roeddwn i wrth fy modd yn crwydro yno gyda fy ffrindiau pan oeddwn i'n ifanc oherwydd roedd y teithwyr a rheolwr yr orsaf yn arfer taflu bwyd i ni. Roedden ni wrth ein bodd yn derbyn y darnau bach blasus, er bod rhai ohonon ni'n ymladd am y darnau gorau weithiau. Ond dyna ni - mae hynna i gyd yn y gorffennol!

image1_500x375.jpg

Gorsaf Kishi - ydych chi'n gallu gweld fy enw i ar y to?

Bu bron i orsaf Kishi gau yn 2004 oherwydd problemau ariannol ond, diolch byth, bu'r bobl leol yn protestio a chafodd yr orsaf aros ar agor. Yna, ym mis Ionawr 2007, digwyddodd rhywbeth rhyfeddol. Cefais i fy mhenodi'n rheolwraig yr orsaf a chefais het rheolwr smart a bathodyn i'w gwisgo. 

Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig nid yn unig i fi ond i'r orsaf hefyd. Dw i ddim yn hoffi brolio, ond o'r diwrnod hwnnw, newidiodd y sefyllfa ariannol yn llwyr. Dechreuodd mwy a mwy o bobl (neu ddylwn i ddweud "miaw a miaw o bobl"?) deithio i'r orsaf i fy ngweld i wrth fy ngwaith. Yn ystod y mis cyntaf ar ôl fy mhenodi, roedd cynnydd o 17% yn nifer y teithwyr oedd yn teithio yma. Dros y flwyddyn gyfan, roedd cynnydd o 10%. Felly, dechreuodd y cwmni trenau a chwmnïau eraill yn yr ardal wneud mwy o arian. Yn ôl yr arbenigwyr, roedd fy mhenodi i'n golygu ychwanegu 1.1 biliwn yen i'r economi lleol. 

Mae pobl yn Japan (a rhai pobl mewn gwledydd eraill) yn meddwl bod creaduriaid fel fi yn lwcus. Rhaid ein bod ni! 

Fy mhrif waith yw cyfarch y teithwyr a dw i'n mwynhau gwneud hynny. Dw i wrth fy modd yn mynd i fyny at rai ohonyn nhw a rhwbio fy nghorff yn eu coesau. Dw i ddim yn derbyn unrhyw gyflog am hyn, cofiwch, ond dw i'n cael digon o fwyd yn rhad ac am ddim a dw i'n ddigon hapus. 

Yn 2008, cefais i ddyrchafiad i "super station master" mewn seremoni arbennig. Erbyn hyn, fi oedd yr unig reolwraig yn y cwmni trenau - dynion oedd pob rheolwr arall. Roeddwn i'n gweithio o naw o'r gloch tan bump o'r gloch bob dydd - ond am ddydd Sul. Roedd gen i swyddfa arbennig (hen swyddfa docynnau) ac roedd gen i focs bach digon hyfryd fel toiled.

image2_500x375.jpg

Fy swyddfa i

Yn 2012, cefais i ddyrchafiad arall - i swydd swyddog gweithrediadau ("operating officer") gan fy mod i'n dal i ddenu mwy a mwy o deithwyr i'r orsaf. Cefais i ddau gynorthwy-ydd hefyd - Chibbi a Miiko. 

Dw i wedi bod mewn dwy ffilm - La Voie du Chatyn Ffrangeg a Katzenlektionen yn Almaeneg.  Dw i'n dipyn o seléb, a dweud y gwir. Mae llyfr wedi cael ei ysgrifennu amdana i ac mae lluniau o fy wyneb hardd yn ymddangos ar fagiau, llyfrau nodiadau  a phob math o gofroddion. 

Erbyn heddiw, mae trên arbennig wedi cael ei enwi ar fy ôl i, ac mae lluniau o gathod ar ei hyd - pyrrrffaith!

image3_500x375.jpg

Trên Tama

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
rheolwraig gorsaf merch sy’n rheoli gorsaf station manageress
rhyfeddol arbennig o dda wonderful, woundrous
cefais i fy mhenodi cefais i’r swydd I was appointed
brolio dweud pa mor dda ydw i to boast
sefyllfa ariannol y sefyllfa o ran faint o arian sydd the financial situation
cynnydd mwy o nifer increase
yen arian Japan yen
cyfarch dweud ‘helo’ wrth bobl, croesawu pobl to greet
dyrchafiad gwell swydd promotion
denu tynnu pobl at to attract
cynorthwy-ydd rhywun sy’n cynorthwyo neu helpu assistant
cofroddion pethau mae pobl yn eu prynu i gofio am rywbeth souvenirs