Problemau ffitrwydd heddiw
Dyma ddwy broblem am ffitrwydd pobl heddiw:
1. Pobl sy'n llai heini
Mae pobl heddiw yn llai heini na phobl yn y gorffennol.
Dylen ni fod yn cerdded 10,000 cam y dydd i fod yn egnïol. Ond fel arfer, mae pobl heddiw yn cerdded rhwng 900 a 3,000 cam y dydd.
2. Pobl ordew
Mae mwy a mwy o bobl yn ordew - yn 1980, tua 8% o'r boblogaeth oedd yn ordew, ond erbyn hyn mae tua 24% o'r boblogaeth yn ordew.
Pam mae pobl yn mynd yn ordew?
Mae pobl yn mynd yn ordew achos:
Mae mwy am fwyd yn Rhifyn 17 (Bwyd) o Gweiddi.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
heini | bywiog | nimble, agile |
corfforol | yn defnyddio’r corff | physical |
egnïol | yn defnyddio nerth ac egni | active |
gordew | yn pwyso gormod | obesity |