Faint ohonoch chi sydd wedi llewygu wrth gael pigiad gan ddoctor neu nyrs? Faint ohonoch chi sy'n cael hunllefau wrth feddwl am gael pigiad neu chwistrelliad? Ond byddai bywyd yn dipyn gwaeth arnoch chi pe na bai pigiadau ar gael ar gyfer heintiau! Does dim amheuaeth eu bod nhw'n achub bywydau.

babyinjection.jpg

Gwelodd  yr Arglwyddes Mary Wortley Montagu bobl yn cael eu chwistrellu yn Nhwrci a hi ddaeth â'r syniad i Brydain ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Ceisiodd doctoriaid roi pigiadau ond heb lawer o lwyddiant.

Dr Edward Jenner oedd yr un lwyddodd gyntaf ym Mhrydain. Chwistrellodd bobl rhag y frech wen (smallpox). 

Cafodd Jenner ei eni yn 1749 yn Berkeley yn Gloucester. Roedd ei dad yn ficer yno ond bu farw pan oedd Jenner yn 5 oed a chafodd ei fagu gan ei fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Aeth Jenner i'r ysgol pan oedd yn 8 oed.

Roedd arno eisiau bod yn feddyg a phan oedd yn 15 aeth i weithio gyda meddyg lleol. Yn 1770 aeth i Lundain i astudio meddygaeth.

Pan basiodd yn feddyg yn 1772 aeth yn ôl i Berkeley. Byddai'n mynd i ymweld â'i gleifion ar gefn ceffyl a byddai bob amser yn gwisgo côt las. Byddai yn hoffi gofyn cwestiynau am feddyginiaethau oedd yn cael eu gwneud o blanhigion.

Yn 1788 priododd Catherine Kingscote.

Roedd y frech wen yn un o'r afiechydon yr oedd pobl yn poeni fwyaf amdano yng nghyfnod Jenner. Byddai 2000 o bobl Llundain yn marw ohono bob blwyddyn. Byddai pobl yn cael smotiau llawn pys dros eu cyrff. Os oedd y cleifion yn byw byddai'r smotiau yn gadael creithiau hyll ac yn bwyta rhannau o'r corff fel clust, trwyn neu lygad.

smallpox2.jpg

Un diwrnod dywedodd merch oedd yn gofalu am wartheg wrth Jenner, 'Dydw i ddim yn poeni am ddal y frech wen oherwydd rydw i wedi cael brech y fuwch (cowpox).' Afiechyd yn cael ei drosglwyddo o wartheg i bobl oedd brech y fuwch. Doedd neb yn marw ohono a doedd neb oedd wedi ei gael yn dal y frech wen.

Gofynnodd Jenner i Sarah Nelmes ei helpu. Roedd hi wedi dal brech y fuwch a chymerodd Jenner fymryn o grawn (pus) o smotyn ar ei braich. Yna gwnaeth doriad bach yng nghroen bachgen 8 oed, James Phipps. Rhoddodd y crawn yn y toriad.

Daliodd James Phipps frech y fuwch. Wyth wythnos wedyn rhoddodd Jenner ddôs isel o'r frech wen iddo. Wnaeth e ddim ei ddal. Roedd brech y fuwch wedi ei arbed.

Ysgrifennodd Jenner lyfr am ei ddarganfyddiad. Roedd gan ddoctoriaid ar hyd a lled y byd ddiddordeb yn ei waith. Cafodd anrhegion gan frenhinoedd ac arian gan lywodraeth Prydain. Yn ystod y rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc gofynnodd Jenner i Napoleon rhyddhau carcharorion o Brydain. Ufuddhaodd Napoleon oherwydd roedd Jenner yn arwr rhyngwladol.

Er iddo ddod yn ddyn eithriadol o gyfoethog parhaodd i weithio fel doctor cefn gwlad yn gofalu am bobl dlawd a chyfoethog. Rhoddai bigiadau yn rhad ac am ddim i bobl leol. Yn 1800, chwistrellodd bron i 200 mewn diwrnod yn Petworth yn Sussex.

Wedi i Jenner farw yn 1823 bu doctoriaid yn gwella'r pigiad yn erbyn y frech wen. Yn 1980 cyhoeddodd Bwrdd Iechyd y Byd (World Health Organization) bod y frech wen wedi ei ddileu trwy'r byd.