MMR Y Ddadl Fawr

Rhifyn 23 - Doctor! Doctor!
MMR Y Ddadl Fawr

mmrbody.jpg

Er i'r pigiad trifflyg MMR yn erbyn clwy'r pennau, y frech goch a rubella gael ei gyflwyno dros ddegawd yn ôl mae'n dal yn destun dadlau.

Mynna'r llywodraeth a'r mwyafrif o ddoctoriaid ei fod yn ddiogel ond dadleua eraill fod sgil effeithiau erchyll iddo.

Y DDADL O BLAID

  • Mae'r frech goch yn heintus a gall fod yn farwol
  • Gall adael y claf gyda nam ar yr ymennydd
  • Gall clwy'r pennau achosi meningitis
  • Os yw merch feichiog yn dal rubella mae siawns o 90% i'r babi fod â diffygion meddyliol a chorfforol
  • Mae'r siawns o gael sgil effeithiau yn isel iawn. Mae wedi cael ei ddefnyddio ers 20 mlynedd yn y Ffindir, Norwy a Sweden, a does dim sôn am broblemau yno.
  • Does dim prawf bod cysylltiad rhwng pigiad MMR a chlefyd Crohn neu awtistiaeth.
  • Does dim pwrpas rhoi tri phigiad ar wahân dros gyfnod o dair blynedd. Mae'n golygu bod yn plentyn heb ddiogelwch am fwy o amser. 

Y DDADL YN ERBYN

  • Dywed Lynne McTaggart, awdur y llyfr What Doctors Don't Tell You and TheVaccine Bible, 'Nid yw MMR yn angenrheidiol, nid yw yn ddiogel ac nid yw yn llwyddiannus bob tro.'
  • Nid yw'r clefydon yn peryglu bywyd plant sydd â system imiwn iach a rhai sy'n cael digon o faeth.
  • Cyfeiria at astudiaeth sy'n dangos nad oedd 1 o bob 5 plentyn gafodd bigiad wedi datblygu gwrthgyrff yn erbyn clwy pennau.
  • Mae firysau yn mynd a dod. Pan fo  brech ieir yn torri allan mewn ardal mae plant sydd wedi cael eu brechu yn gallu ei ddal.
  • Mae straeniau gwahanol neu newydd o firysau yn gallu gwrthsefyll pigiadau
  • Gall y brechiad wanio gydag amser.
  • Mae 2000 o rieni sy'n credu bod eu plant wedi dioddef sgil effeithiau fel cryd cymalau ac epilepsi yn perthyn i'r grŵp JABS.
  • Yn yr Unol Daleithiau mae mwy na miliwn o ddoleri o iawndal wedi ei dalu i rieni sy'n honni bod eu plant wedi dioddef o ganlyniad i frechiad MMR.