Roeddwn i bob amser yn meddwl mai pwrpas mynd i ysbyty oedd cael gwared o salwch. Ond mae pethau wedi newid! Erbyn heddiw mae pobl yn defnyddio meddygaeth am resymau hunanol.
Mae'n amlwg bod gan rai pobl ormod o arian ac maen nhw'n ei wario ar newid y ffordd maen nhw'n edrych. Mae'r bobl yma yn hollol hunanol yn fy marn i. Maen nhw'n gwastraffu amser y meddygon, dwyn gwelyau mewn ysbytai a gwneud i bobl sy'n sâl go iawn orfod aros am driniaeth. Beth yw eich barn chi ar yr hyn mae'r bobl yma wedi ei wneud?
Llun gan Teinteresa
Llun gan Hollywood Reporter
Llun gan DBV
A beth am yr enwogion yma o fyd chwaraeon sy'n gwario ar feddygaeth er mwyn gwella eu sgiliau a dod yn fwy enwog yn eu maes?
Tiger Woods a Vijay Singh
Efallai mai'r chwaraewr golff enwocaf i gael triniaeth laser ar ei lygaid (ddwywaith) oedd Tiger Woods a'r golffiwr diweddaraf yw Vijay Singh.
Jodie Shann
Byddai Jodie Shann sy'n aelod o dim Triathlon Prydain, yn cael trafferth gyda lensys mewnol, 'Roedd gwisgo lensys tra'n rasio a hyfforddi yn niwsans. Roeddwn yn cael trafferth i'w cael i'm llygaid ar gyfer y sesiwn ymarfer am 6 a.m. ac arbyn diwedd y pnawn byddai fy llygaid yn sych. Roeddwn hefyd yn poeni am eu colli tra yn nofio neu am gael eli haul arnyn nhw. Roedd hyn yn gwneud i fi weld yn aneglur! Mae cael triniaeth laser wedi newid fy mywyd!'
Ond efallai mai'r gwaethaf ydy'r bobl sydd am glonio plentyn. Pobl sydd yn meddwl cymaint ohonyn nhw eu hunain fel eu bod am gael plentyn sy'n union fel nhw! Ydych chi'n cofio beth ddigwyddodd i Dolly, y ddafad gyntaf i gael ei chlonio? Marw yn ifanc o haint sydd ddim yn arfer digwydd i ddefaid yr oed yna. Ie, dyna neges go bwysig i unrhyw un sydd yn defnyddio meddygaeth am resymau hunanol.