Gwlad y rygbi? Gwlad y gân? Gwlad y glowyr? Gwlad y chwarelwyr? Ai dyna ydy Cymru? Nage wir, mae Cymru yn enwog am bethau eraill hefyd! Un o'r rheiny, coeliwch neu beidio, ydy meddygon. Un teulu enwog o feddygon oedd Meddygon Myddfai.
Gwyliwch y ddau glip fideo i gael eu hanes ond peidiwch â beio'r rhaglen hon os byddwch yn sâl ar ôl arbrofi gydag un o'u meddyginiaethau! (medicines).