Fforwm Ieuenctid

Rhifyn 26 - Fandaliaeth
Fforwm Ieuenctid

Cai y Cyflwynydd: Croeso i chi yma heno i'r Fforwm! Gyda ni yn y gynulleidfa mae cynrychiolwyr o dair ysgol uwchradd lleol. Croeso! Aelodau'r panel ydy Aelod y Cynulliad, Dai Jones, y Cynghorydd Sir,Nia Williams a Wil Lloyd o'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Croeso i chwithau.

Pwnc ein trafodaeth heno ydy FANDALIAETH ac mi hola i'r cwestiwn cyntaf i Dai Jones.

Sut fyddech chi'n diffinio'r termau 'fandal' neu 'fandaliaeth'?

Dai Jones: Rhywun sy'n difetha neu falurio eiddo neu waith rhywun arall ar bwrpas siwr o fod. Eiddo cyhoeddus neu breifat.

Wil Lloyd: Ie, anharddu ac amharchu rhywbeth heb ganiatâd y perchennog. Gwneud niwed i rywbeth heb reswm. Fe all o gychwyn fel direidi a chwarae plant ond yna mae'n mynd dros ben llestri.

Cai: Pam, yn eich barn chi, mae pobl yn fandaleiddio?

Dai Jones: Yr hyn sy'n drist ydy bod pobl yn meddwl fod fandaleiddio yn hwyl. Dydy e'n sicr ddim yn hwyl i'r rhai sy'n dioddef. Pobl ddwl sy'n fandaleiddio, pobl sy'n methu dweud 'NA!' pam mae eu ffrindiau yn gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth.

Nia Williams: Rydw i'n cytuno mai pobl ddwl sy'n fandaleiddio. Maen nhw hefyd yn dymuno cael mwy o bethau bydol fel arian a dillad drud ond does ganddyn nhw mo'r arian i'w cael ac felly maen nhw'n difetha eiddo pobl erail. Maen nhw'n eiddigeddus. Mewn rhai ardaloedd, cofiwch, mae'n digwydd i ddangos hiliaeth neu gasineb at gredoau crefyddol eraill.

Wil Lloyd: Dydych chi ddim yn hollol deg â phobl ifanc. Rhaid i mi gyfaddef mai pobl ifanc sy'n fandaleiddio ran amlaf ond ai eu bai nhw ydy e? Oni ddylen ni eu helpu? Efallai mai'r ffordd maen nhw wedi cael eu magu sydd ar fai. Efallai mai bai eu rhieni ydy e. Weithiau mae'n rhywbeth i'w wneud pan maen nhw'nbored.Ac ar bwy mae'r bai am hynny? Mae fandaleiddio hefyd yn gallu bod yn rhan o gael derbyniad i gang neu yn ffordd i fachgen ddangos i ferch  mae'n ei ffansio ei fod ynmacho.

Dai Jones: Mae'n gallu bod yn ffordd o ddial hefyd. Os ydy person wedi gwylltio gyda rhywun mae'n dangos hynny trwy wneud niwed i'w eiddo.

Cai: Roeddech chi'n awgrymu efallai bod bai ar y rhieni, Wil. Ym mha ffordd allai'r rhieni helpu?

Wil Lloyd: Yn anffodus, mae'n anodd cael tystiolaeth bod person ifanc wedi bod yn fandaleiddio - heb iddo gario arwydd stryd adref gydag ef! Anaml iawn mae'r 'fandal' yn ymddwyn yn wahanol wedi iddo fandaleiddio hefyd. Dyna pam mae'n bwysig i rieni siarad gyda'u plant am fandaliaeth ac egluro pam nad yw yn syniad da. Dylai'r rhieni wybod ble mae eu plant bob amser oherwydd mae plentyn sy'n gwybod bod ei rieni yn poeni amdano yn llai tebygol o gam-ymddwyn.

Nia Williams: Rydw i'n cytuno bod gan y rhieni ddyletswydd i addysgu eu plant. Rhaid iddyn nhw egluro'r gwahaniaeth rhwng fandaliaeth a thriciau diniwed. Rhaid iddyn nhw ddeall fod fandeiddio yn costio llawer o arian i drethdalwyr oherwydd mae'n rhaid trwsio'r eiddo. Am fod ysgol yn gorfod talu am lanhau graffiti, er enghraifft, rhaid torri i lawr ar dripiau ysgol. Mae'n rhoi argraff ddrwg o ardal hefyd a dydy pobl ddim am fynd yno.

Dai Jones: Yn bwysicach na hynny rhaid i fandaliaid sylweddoli bod fandaleiddio yn DROSEDD! Bydd ar eu record pan fyddant yn chwilio am waith neu'n ceisio mynd i goleg - nid eu bod yn fath o bobl ifanc fyddai'n mynd i goleg! Dydy fandaliaid ddim yn gorfod dioddef digon chwaith. Mae eisiau cosbau llym. Dydy glanhau wal ddim yn llawer o gosb. Fe ddylen nhw orfod talu am drwsio pethau fel ceir! Fe ddylen nhw ddioddef. Dyna maen nhw'n ei haeddu! Yna gwnewch yn siwr bod gennych gornel 'sanctaidd' i'ch artistiaid graffiti arddangos eu doniau anhygoel!

Cai: Oes yna ryw ffordd arall o ddatrys y broblem?

Wil Lloyd: Un ateb amlwg, wrth gwrs, ydy sicrhau bod gan bobl ifanc ddigon o bethau i'w gwneud yn eu hamser hamdden. Rhaid sicrhau bod digon o gyfleoedd i bawb yn y canolfannau hamdden, y canolfannau awyr agored a'r clybiau ieuenctid. Rhaid cael rhywbeth at ddant pawb, o weu i rygbi, o waith clai i abseilio. A rhaid i'r gweithgareddau hyn fod o fewn cyrraedd i bawb ac yn fforddiadwy. Dylai'r cyngor lleol eu noddi.

Nia Williams: Haws dweud na gwneud! Rhaid i chwithau gofio nad ydy ein harian ni yn tyfu ar goed!

Dai Jones: Yr hyn fyddwn i'n ei wneud fyddai rhoi digon o waith i'r cnafon. Gwneud iddyn nhw dorri glaswellt parciau'r dref a chartrefi hen bobl, gwarchod babis mewn meithrinfeydd a mynd â chŵn yr RSPCA am dro. Eu cadw'n brysur a rhoi ychydig o arian yn eu pocedi. Dyna'r ateb!

Cai: Diolch yn fawr iawn i chi gyfeillion. Mae ein hamser wedi dod i ben. Diolch am noson ddifyr iawn.