Hen gapel gwag
Y ffenestri'n deilchion
A gwydr fel conffeti pigog ar lawr.
Drws derw yn hongian
Yn feddw.
'God lives here' -
Geiriau
Wedi eu crafu fel adnodau arno.
A 'MOREIA 1885'
Ar lechen uwchben
Yn syllu'n drist.
A'r tu mewn
Crafiadau hyll lle bu canu
Caniau cwrw lle bu gwin y cymun
Staeniau yn lle sglein ar y seti
A neb yn malio.