Yn dilyn darllen y datganiad yn y papur lleol ysgrifennodd un darllenwr y llythyr hwn:
Annwyl bawb,
Hoffwn ymateb i'r datganiad gan y Cyngor Sir ynglŷn â fandialaeth mewn ysgolion yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n fy mhlesio fod y Cyngor Sir yn sylweddoli fod staff yn parhau i weithio mewn ysgolion yn ystod gwyliau'h haf ond nid eu gwaith hwy yw gwarchod yr adeilad. A dweud yn gwir maen nhw'n gweithio mewn amgylchiadau peryglus.
Hoffaf y modd mae'r cyfarwyddwr yn dweud fod trwsio wedi fandaliaeth yn golygu defnyddio arian ddylai gael ei wario ar addysgu.
Wedi dweud hynny nid oes unrhyw gyfarwyddiadau pendant yn y datganiad ar wahân i ofyn i bobl lleol gadw llygad ar yr ysgolion.
A gaf i, yn garedig, awgrymu y dylid
Gwneud yn siwr bod y larymau tân a'r larymau lladron yn gweithio'n iawn.
Sicrhau bod golau digonol ar dir yr ysgol ac yn arbennig yn y corneli tywyll
Ystyried cyflogi rhywun i gerdded o gwmpas yr ysgol yn ystod y nos
Torri gor-dyfiant sy'n rhoi lle i guddio a thrwy hynnyi leihau'r risg o danau
Diffodd y cyflenwad nwy i'r labordai a'r ceginau Symud biniau ysbwriel gan eu bod yn lleoedd delfrydol i gychwyn tân
Cadw'r giatiau ar glo a sicrhau bod y ffensus a'r giatiau yn gyfan
Cau llenni'r ystafelloedd i guddio'r hyn sydd yno Storio offer drud e.e. cyfrifiaduron mewn ystafell dan glo, heb ffenestri ac ddim ar y llawr gwaelod.
Yn gywir,
Ianto Tomos.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Annog | perswadio | Persuade |
Cymunedau | – lluosog ‘cymuned’ sef ardal a chymdeithas o bobl | Communities |
Gwyliadwrus | cadw llygad ar rywbeth/bod yn ofalus | Watchful |