Ydych chi wedi sylwi ar berfformwyr ar y stryd erioed?
Mae rhai'n canu. Mae rhai'n canu offeryn cerdd. Mae rhai'n sefyll fel cerfluniau byw ac mae rhai'n gwneud cerfluniau o dywod.
Mae rhai ohonyn nhw'n ifanc. Mae rhai ohonyn nhw'n ganol oed ac mae rhai'n hen. Mae rhai'n dda iawn ond mae rhai'n ofnadwy.
Mae un peth yn gyffredin i'r bobl yma. Maen nhw'n barod i berfformio am oriau ... o ddydd i ddydd ... er mwyn ennill arian. Dyfal donc yntê!
Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw hanes y bobl hyn? Pam maen nhw yno?
Pwy, tybed, oedd y cymeriad yma welodd y bardd, Aled Lewis Evans, unwaith?
Yno
yn chwarae ei gân
mor hapus i glust
rhai'n mynd heibio.
Plentyn bach
â'i ffliwt blastig
a phawb yn troi
i glywed y gân.
Yno
ar y stryd
yn cardota gyda'i ffliwt
y plentyn bach
â'i arian mân yn yr het.
A'r gân yn atseinio
mor hyfryd o drist.
Aled Lewis Evans.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Brwsel | prifddinas Gwlad Belg | Brussels |
cerfluniau | lluosog cerflun, sef darn o waith celf 3D | sculpture |