Rhedeg marathon – y ras ei hun

Rhifyn 27 - Dyfal donc a dyrr y garreg
Rhedeg marathon – y ras ei hun

Mae Daniela wedi rhedeg ym marathon Llundain. Dyma gyfweliad gyda hi am y digwyddiad ond os hoffech chi ddarllen am y cyfnod paratoi, edrychwch yn y golofn gyntaf.

bodyimage.jpg (1)

 

Sut roeddech chi'n teimlo ar fore'r ras ei hun?

Roeddwn i'n nerfus iawn - ac roeddwn i wedi blino gan nad oeddwn i wedi cysgu'n iawn y noson gynt. Nerfau, mae'n siŵr!

 

Beth wnaethoch chi cyn y ras?

Ces i frecwast - uwd a banana. [Roeddwn i wedi bwyta pasta y noson gynt er mwyn rhoi digon o egni i fi redeg.] Yna, ar ôl brecwast, roedd rhaid teithio i'r ras ei hun. Roeddwn i wedi aros yn Llundain y noson gynt ac felly roedd angen dal y tube yn y bore. 

 

Disgrifiwch y munudau wrth y llinell gychwyn - cyn i chi ddechrau rhedeg. 

Swreal iawn! Roedd miloedd ar filoedd o bobl yno. Roedd hi'n bwrw glaw ac roedd hi braidd yn oer, felly roedd pawb yn neidio i fyny ac i lawr i drio cadw'n gynnes. Roedd croesi'r llinell dechrau'n deimlad rhyfedd iawn. Dw i'n cofio meddwl, "Mae o leia 5 awr o redeg o 'mlaen i!"

 

Disgrifiwch eich teimladau wrth i chi redeg. 

Roeddwn i'n nerfus ar y dechrau, ac yna dechreuais i fwynhau - am y 22-23 milltir gyntaf. Roeddwn i wedi ysgrifennu fy enw i ar y fest Marie Curie roeddwn i'n ei gwisgo felly roedd pawb yn gweiddi fy enw i ac roedd hyn yn help mawr.

 

Oedd yna adegau pan oeddech chi'n meddwl, "Alla i ddim rhedeg cam ymhellach"? 

Oedd, tua 23 neu 24 milltir i mewn i'r ras - roedd popeth yn boenus!

 

Sut llwyddoch chi i ysgogi'ch hun i barhau? 

Doeddwn i ddim yn mynd i fethu! Dim gobaith!  Roeddwn i'n mynd i orffen y ras hyd yn oed os oedd rhaid i fi gerdded a chymryd fy amser. Y peth pwysig i fi oedd gorffen y ras!

 

Sut roeddech chi'n teimlo wrth i chi groesi'r llinell derfyn? 

MOR HAPUS a mor falch o fy hunan!  Roedd dod rownd y gornel olaf a gweld y llinell derfyn yn y pellter yn anhygoel! Dw i'n cofio meddwl, "Dw i wedi neud e! Dw i wedi rhedeg marathon!"

     

Faint o arian lwyddoch chi i'w godi?

Dros £600.

 

Beth yw'ch atgofion chi o'r diwrnod? 

Mae atgofion melys iawn gyda fi. Mae un yn arbennig - cael cawod a gwisgo pyjamas y noson honno! Ffantastig!

 

Sut rydych chi'n teimlo am y profiad nawr? 

Gwych! Dw i'n methu credu bod 4 blynedd wedi mynd heibio! Mae un gewyn gyda fi ar fy nhroed sy'n dal i dyfu'n rhyfedd … felly mae rhywbeth gyda fi sy'n fy atgoffa i o'r profiad o hyd!

 

Hoffech chi redeg marathon arall? 

Mae rhan ohono i'n dweud y byddwn i'n hoffi rhedeg mewn marathon eto, ond dw i'n gwybod na fyddai byth digon o amser gyda fi i hyfforddi. Rhaid hyfforddi'n iawn ac mae hyn yn cymryd cymaint o amser! Efallai y gwna i ystyried hanner marathon … neu ambell ras 10 km o bosib!

 

Oes gennych chi gyngor i rywun hoffai redeg mewn marathon?

Mae'n bwysig peidio â thrio unrhyw beth newydd ar ddiwrnod y ras. Dim dillad newydd! Dim esgidiau rhedeg newydd. Rhaid defnyddio'r rhai a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hyfforddi. Dim energy gels newydd chwaith! Defnyddiwch beth rydych chi wedi arfer ag e!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
swreal afreal surreal
annog cael rhywun i wneud rhywbeth to encourage
ysgogi ysbrydoli rhywun i wneud rhywbeth to motivate
anhygoel arbennig iawn, iawn awesome, incredible
arfer â defnyddio fel arfer to be used to