Mae James Jones wedi ennill pob cystadleuaeth BMX bwysig yng Nghymru!

Llun gan James Jones

Llun gan Chris Smith - www.valleysidedistro.com
Dechreuodd James reidio beiciau BMX mewn parc beiciau ar draws y ffordd i'w gartref pan oedd e'n 14 oed. Tipyn o hwyl gyda ffrindiau oedd hyn ar y pryd.
Erbyn heddiw, mae e'n hyfforddi rhwng tair ac wyth awr y dydd dros y penwythnosau. "Rhaid hyfforddi er mwyn gwella techneg a dysgu sgiliau newydd," dywedodd.
Mae e'n mwynhau ei waith yn fawr ond mae yna gyfnodau anodd hefyd. "Rhaid bod record ysbyty hir iawn gyda fi," meddai. "Dw i wedi torri llawer o esgyrn, gan gynnwys asgwrn yr ysgwydd, y penelin a'r pigwrn (dwywaith).

Lluniau gan James Jones
Ydy hyn yn gwneud iddo deimlo ei fod e eisiau rhoi'r gorau i'r gamp?
Dim o gwbl. "Dw i wrth fy modd ar y beic BMX. Mae'r adrenalin yn fy nghadw i i fynd. Dw i wrth fy modd gyda'r teimlad o ryddid dw i'n ei gael pan fydda i ar y beic.
"Dw i erioed wedi meddwl, 'Dyna ddigon!'. Rhaid i fi wneud yn siŵr bod fy enw i'n aros ar y brig os ydw i eisiau parhau yn y maes. Dw i eisiau cyflawni cymaint mwy."

Llun gan James Jones
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| ar y brig | ar y top | at the top |
| arddangos | dangos yn gyhoeddus | to exhibit |
| noddwyr | lluosog noddwr – pobl sy’n ei gefnogi | sponsors |
| cyfnodau | lluosog cyfnod – adegau, amseroedd | times |
| pigwrn | ffêr | ankle |
| cyflawni | llwyddo | to achieve |