Os ydych chi eisiau llwyddo mewn unrhyw beth, rhaid dal ati - rhaid dyfalbarhau. Mewn geiriau eraill, "Dyfal donc a dyrr y garreg." Dyna pam mae gŵr a gwraig o Ogledd Cymru wedi dewis yr enw Dyfal Donc ar gyfer eu cwmni.

"Roedd y dywediad yn addas i beth roedden ni'n trio'i wneud ar y pryd," dywedodd Morgan Griffith, sy'n un o berchnogion y cwmni. "Os ydych chi eisiau cael llwyddiant mewn unrhyw faes, rhaid i chi weithio'n galed - rhaid dal ati."

factcard.jpg (1)

Eco-gyfeillgar

Mae'r cwmni'n un eco-gyfeillgar iawn gan fod Morgan a Rebecca'n defnyddio hen betheuach papur, hen luniau, paent ac unrhyw beth arall y mae modd eu hail-ddefnyddio neu eu hailgylchu. Wrth ddylunio, maent yn defnyddio hen wyddoniaduron, llyfrau gwyddoniaeth, llyfrau bywydeg a llyfrau natur o'r 50au, 60au, 70au a'r 80au.

Yn ogystal, maent yn ceisio creu cynnyrch eco-GYFEILLGAR fel amlenni mae modd eu hailgylchu 100% a bagiau arddangos o ddeunydd sy'n pydru. 

Beth am y dyfodol?

"Byddwn ni'n datblygu'r cynlluniau a'n nwyddau a byddwn ni'n creu printiau celf A5, A4 ac A3. Rydym yn gobeithio creu papur lapio, cardiau rhoddion, cardiau post, setiau ysgrifennu a mwy." 

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, neu weld mwy o'r cynnyrch, ewch i:

http://www.dyfaldonc.com/cy/about/. 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dyfalbarhau dal ati to persevere
dylunydd person sy’n dylunio designer
gweinyddwr person sy’n rhedeg busnes, gwneud y gwaith papur ac ati administrator
cyfarch rhoi neges to greet, greeting
nwyddau pethau goods
ar hyd a lled ar draws all over
eco-gyfeillgar sy’n dda i’r amgylchedd eco-friendly
petheuach pethau things
mae modd mae’n bosib it’s possible to
gwyddoniaduron lluosog gwyddoniadur, llyfrau gwybodaeth encyclopaedias