Moksha-Patamu a gemau eraill

Rhifyn 27 - Dyfal donc a dyrr y garreg
Moksha-Patamu a gemau eraill

Mae'n siŵr eich bod chi wedi chwarae Moksha-Patamu rywbryd yn eich bywyd. Ydych chi'n gwybod beth yw'r gêm yma? Dyma rai cliwiau i chi rhag ofn:

  • Hen, hen gêm fwrdd o India yw hi.
  • Mae grŵp o bobl neu blant yn ei chwarae hi fel arfer.
  • Gêm fwrdd yw hi.
  • Rhaid cael dis a chownteri lliw.
  • Rhaid taflu'r dis a symud o sgwâr i sgwâr.

Ydych chi'n gwybod beth yw'r gêm erbyn hyn?

Os nad ydych chi, dyma'r cliw pwysicaf ...

  • Mae ysgolion a nadroedd ar y bwrdd. 

Wel, dyna chi, rydych chi'n gwybod beth yw'r gêm erbyn hyn, mae'n siwr - Nadroedd ac Ysgolion neu Snakes and Ladders.

bodyimage.jpg (2)

Moksha-Patamu

Mae'r gêm Nadroedd ac Ysgolion wedi datblygu o'r hen gêm Indiaidd Moksha-Patamu ac roedd y gêm honno'n dysgu sut i fyw bywyd da. Sut?

image2.jpg (1)

Wel, ar waelod pob ysgol, roedd geiriau a oedd yn gysylltiedig ag ymddygiad da, fel:

  • haelioni
  • gwybodaeth
  • dibynadwyaeth
  • asgetigiaeth, sef byw bywyd llym a syml.

Pan oedd rhywun yn cyrraedd sgwâr lle roedd y geiriau yma, roedden nhw'n cael mynd i fyny'r ysgol - ac agosáu at sgwâr 100, sef diwedd y gêm. Y syniad, felly, oedd bod unrhyw un oedd yn byw bywyd da yn cael ei wobrwyo. 

Ar bob neidr, roedd geiriau oedd yn gysylltiedig ag ymddygiad drwg, fel

  • anufuddhau
  • dwyn
  • dweud celwydd
  • meddwi
  • balchder
  • lladd

ac ati.

Pan oedd rhywun yn glanio ar sgwâr gyda'r geiriau yma, roedd rhaid mynd i lawr y neidr - yn bellach o sgwâr 100. Roedden nhw'n cael eu cosbi, felly.

Roedd mwy o eiriau am bethau drwg na phethau da ar y bwrdd ac felly, roedd y gêm yn dysgu bod rhaid dal ati i wneud pethau da mewn bywyd, er gwaethaf yr holl bethau drwg. I ennill, roedd rhaid dal ati - dal ati i ddringo a chael y gorau ar y nadroedd a'r pethau drwg.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymddygiad sut mae rhywun yn ymddwyn neu’n byhafio behaviour
haelioni bod yn hael generosity
dibynadwyaeth bod yn ddibynadwy – yn rhywun gall rhywun arall ddibynnu arno reliability
yn llym gan gadw at reolau pendant strict
anufuddhau peidio ufuddhau disobedience