Copïo ym myd ffasiwn

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Copïo ym myd ffasiwn

Copïo ym myd ffasiwn

Rydyn ni i gyd yn dysgu bod copïo'n beth gwael. "Dydych chi ddim i fod i gopïo gwaith neb," medd eich athro neu athrawes bob amser. Ond ym myd ffasiwn, mae copïo'n rhemp.

Rhan bwysig o fyd ffasiwn

Mae copïo'n rhan anhepgorol o fyd ffasiwn. Os bydd sioe ffasiwn yn rhywle, gallwch chi fod yn siŵr y bydd dillad cyffelyb yn y siopau ar y stryd fawr cyn pen dim. Neu, os bydd seren yn gwisgo ffrog newydd i fynd i'r Oscars, bydd ffrogiau tebyg ar gael i chi eu prynu mewn dim o dro. Yn ddiweddar, mae cynllunwyr yn copïo beth bynnag mae Duges Caergrawnt, gwraig y Tywysog William, yn ei wisgo.

Ddim yn anghyfreithlon

Ond does neb wir yn gallu gwneud dim am hyn oherwydd nad yw'n anghyfreithlon. Serch hynny, mae yn anghyfreithlon os ydych chi'n gwneud ffrog a gwnïo label Prada ffug arni.

Cynllunwyr yn weddol fodlon

Er bod cynllunwyr yn gwybod bod pobl yn copïo eu dillad, does dim gwahaniaeth ganddyn nhw, mewn ffordd. Maen nhw'n gwybod eu bod yn dechrau tuedd. Mae hynny'n gallu bod yn beth da iddyn nhw, achos wedyn maen nhw'n gwerthu mwy o ddillad. Hefyd, os bydd cynllunwyr eraill yn copïo'r gwaith, bydd statws y cynllunydd gwreiddiol yn codi.

Er enghraifft, mae Phoebe Philo, cynllunydd ffasiwn o Brydain, wedi dweud nad oes gwahaniaeth ganddi weld copïau o'i gwaith ar y stryd fawr. Fel arfer, mae ei dillad yn gwerthu am hyd at £2,000 yr eitem. Meddai hi, "Byddwn i'n teimlo'n ofnus petawn i ddim yn cael fy nghopïo."

Peth da i'r cwsmer

I'r cwsmer cyffredin, mae'r copïo ym myd ffasiwn yn fanteisiol iawn. Os yw ffrog gan label enwog yn costio £1,500, ond mae'n bosib prynu ffrog gyffelyb mewn siop ar y stryd fawr am £60, mae'r cwsmer yn hapus. Mae'r cwsmer yn gallu bod yn ffasiynol heb wario ffortiwn.

Symud ymlaen i'r duedd nesaf

Wrth i'r duedd fynd yn gyffredin iawn, bydd y cynllunydd gwreiddiol yn symud ymlaen i wneud rywbeth newydd, a chreu tuedd newydd. Mae hynny'n helpu i werthu mwy o ddillad. 

Angen syniadau newydd

Mae angen syniadau newydd, ffasiynol drwy'r amser er mwyn gwerthu dillad newydd. Mae byd ffasiwn yn newid bob blwyddyn fel bod rhaid i bobl sydd eisiau aros yn ffasiynol brynu rhagor o ddillad o hyd. Heb ffasiwn, byddai pawb yn gwisgo'r un pethau am flynyddoedd!

Troi mewn cylchoedd

Mae ffasiwn yn troi mewn cylchoedd, felly mae cynllunwyr y labeli mawr yn aml yn edrych i'r gorffennol am ysbrydoliaeth. Felly, mewn ffordd, maen nhw eu hunain yn copïo!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
yn rhemp yn eithafol rampant, prevalent
cynllunwyr pobl sy’n cynllunio dillad designers
anghyfreithlon yn erbyn y gyfraith illegal
tuedd cyfeiriad, y ffordd mae pethau’n mynd trend
gwreiddiol cyntaf, ar y dechrau original