Gemwaith ffasiynol o hen lestri!

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Gemwaith ffasiynol o hen lestri!

Busnes Gemwaith yng Nghymru - Pretty Fragmented

Mae gan Hedd Emrys o Gaerdydd fusnes gemwaith o'r enw Pretty Fragmented. Mae hi'n creu gemwaith o hen lestri. Cewch wybod rhagor yn y cyfweliad hwn.

bodyimage.jpg (1)

Sut meddylioch chi am greu gemwaith o hen lestri?

Dwi wrth fy modd gyda hen lestri - vintage a retro yw'r geiriau yn Saesneg. Dwi'n dwlu ar y cynlluniau, y lliwiau a'r siapiau - mae'r amrywiaeth yn anhygoel. Hefyd, dwi'n teimlo'n gryf bod ailddefnyddio ac ailgylchu'n bwysig iawn. Dwi wedi dilyn fy mam wrth wneud hyn - mae hi'n greadigol ac yn ddyfeisgar iawn. Mae hi'n berson sydd o hyd yn gweld defnydd newydd i hen bethau ac yn creu crefftwaith yn ei chartref.

Pan fydd darn o lestri wedi torri neu gracio, bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei daflu. Ro'n i eisiau achub llestri hardd a'u hailddefnyddio'n ddychmygus. Dwi'n gyfarwydd â thorri a llunio tsieni achos dwi'n gwneud mosaig. Felly, dyma fi'n mynd ati i greu a datblygu siapiau gwahanol, a dyna sut dechreuodd Pretty Fragmented y llynedd.

Mae Pretty Fragmented yn uwchgylchu ac ailddefnyddio hen lestri a fyddai wedi mynd i'r safle tirlenwi fel arall. Dwi'n gwneud gemwaith o hen lestri y mae pobl yn cofio eu defnyddio gartref pan o'n nhw'n blant. Weithiau dwi'n ddigon lwcus i ddod o hyd i hen lestri a gafodd eu gwneud yn wreiddiol gan gynllunwyr serameg enwog fel Jessie Tait a Hugh Casson a mae hyn yn rhoi cyfle i mi ddefnyddio patrymau bendigedig yn fy ngemwaith. Mae hanes i bob darn o lestri dwi'n ei ddefnyddio ac mae'n grêt gallu rhoi bywyd newydd iddo.

Mae pob darn o emwaith yn hollol unigryw achos ei fod wedi'i wneud â llaw, nid peiriant. Mae'r siâp yn dibynnu ar y darn llestri sydd ar gael a sut mae'n torri. Dydy e ddim wedi'i fasgynhyrchu fel y gemwaith welwch chi mewn siopau fel arfer. Os prynwch chi ddarn o emwaith gen i, fydd dim un arall tebyg.

 

Ble rydych chi'n cynhyrchu'r gemwaith?

Dwi'n gweithio o fwrdd y gegin gartref yng Nghaerdydd. Y gegin yw canolbwynt y tŷ felly does dim llawer o le gen i. Fy mreuddwyd yw cael fy stiwdio fy hun yn y tŷ.

 

Sut mae'r gemwaith yn cael eu creu?

Mae'r gemwaith yn cael eu torri, eu llunio a'u sandio â llaw. Dwi'n ceisio gweithio gyda'r patrwm a siâp y llestr bob amser.  Dwi'n dod o hyd i'r hen lestri'n lleol ac yn defnyddio darnau sydd wedi'u torri, wedi'u marcio neu lle does dim ond un soser neu blât ar ôl o set lestri. Mae'r broses i gyd yn ecogyfeillgar - mae hynny'n bwysig i mi ac i'r bobl sy'n prynu oddi wrtha i.

 

Pa fath o emwaith rydych chi'n eu creu?

Dwi'n gwneud mwclis, broetsis, modrwyon, clustdlysau a dolenni llawes. Dwi'n meddwl am syniadau newydd o hyd. Mae pob cynllun yn wreiddiol - adar, ieir bach yr haf, cŵn, calonnau. Felly, er fy mod i'n gweithio gyda hen lestri, mae'r dyluniadau'n rhai modern ac maen nhw'n gweithio'n dda gyda dillad modern a dillad vintage.

 

Beth sy'n anodd am greu gemwaith o lestri, er enghraifft, ydy'r llestri'n torri weithiau?

Dwi wrth fy modd yn gwneud gemwaith o hen lestri, ond mae'n gallu bod yn heriol! Mae'n anodd gwybod a fydd y llestr yn torri'n union fel dwi eisiau iddo fe wneud i gael y patrwm a'r cynllun delfrydol.

 

Ble rydych chi'n gwerthu'r gemwaith?

Dwi'n gwerthu'r gemwaith ar wefan etsy www.etsy.com/uk/shop/PrettyFragmented. Dwi'n dangos y cynlluniau diweddaraf ar Trydar @PrettyFragments ac mae gen i dudalen Facebook hefyd. Weithiau dwi'n mynd i ffeiriau lleol a dwi'n gobeithio bydd siopau'n gwerthu'r gemwaith cyn hir. 

 

Pa fath o batrymau sy'n ffasiynol ar hyn o bryd?

Mae llestri retro o'r 1950-70au yn boblogaidd iawn ac felly mae'r gemwaith gyda'r patrymau hyn yn gwerthu'n dda. Mae pobl wrth eu bodd gyda siapiau fel calonnau, cŵn ac adar. Mae galw mawr am emwaith o hen lestri glas a gwyn ac mae oren a brown - lliwiau 'ffynci' o'r 1970au - hefyd yn ffasiynol ar hyn o bryd.

 

Sut hoffech chi ddatblygu'r busnes yn y dyfodol?

Dwi eisiau gweld Pretty Fragmented yn tyfu'n gyflym fel busnes a'r gemwaith llestri wedi'i uwchgylchu'n cael ei werthu dros y DU a thu hwnt. Mae peth o'r gemwaith wedi cyrraedd yr Iwerddon, UDA a Chanada'n barod. 

 

Shop: Pretty Fragmented ar Etsy

Twitter: @PrettyFragments

Facebook: Pretty Fragmented

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dyfeisgar yn dda am ddyfeisio, creu pethau inventive
dychmygus llawn dychymyg imaginative
tsieni y defnydd sydd mewn llestri china
uwchgylchu ailgylchu drwy wneud ddefnyddio rhywbeth mewn ffordd wahanol upcycling
unigryw dim byd arall tebyg, yn wahanol i bopeth arall unique
masgynhyrchu cynhyrchu llawer iawn o’r un eitem yn union to mass-produce
ecogyfeillgar yn dda/yn gyfeillgar i’r amgylchedd eco-friendly
dolenni llawes pethau sy’n dal dwy ochr llawes at ei gilydd cufflinks
heriol yn rhoi her i rywun challenging