Bwrw hen wragedd a ffyn … bwrw cyllyll a ffyrc - dyma ddwy idiom Gymraeg ddiddorol i ddisgrifio glaw trwm.
Mae idiom dda yn Saesneg hefyd, 'raining cats and dogs' ac os ydych chi yn Ffrainc, 'il pleut des cordes' - mae'n bwrw rhaffau … neu 'il pleut des hallebardes', sef … mae'n bwrw gwayw-fwyeill. Awtsh! Poenus iawn! Fyddwn i ddim eisiau cerdded drwy gawod drom o law yn Ffrainc!
Os ewch chi i Bortiwgal, mae'n bwrw pethau mwy rhyfedd byth yno - 'Está chovendo a barba de sapo' - mae'n bwrw barfau llyffantod. Mae rhywbeth tebyg yn digwydd yng Ngwlad Pwyl - 'Leje zabami' - mae'n bwrw brogaod!
Tybed fyddwn ni'n gweld hen wragedd a ffyn … neu gathod a chŵn … neu raffau … neu hyd yn oed lyffantod yn syrthio o'r awyr yn ystod y dyddiau nesaf?
Dydy hyn ddim yn debygol, ond efallai y cawn ni dywydd tebyg i hyn …
'Bydd hi'n oer iawn a bydd eira'n disgyn dros y mynyddoedd …'
neu efallai
'Bydd gwyntoedd cryf yn dod o'r Gorllewin …'
neu o bosib
'Bydd glaw trwm yn lledu o'r gorllewin ac yn disgyn dros Gymru gyfan erbyn amser cinio a bydd hyn yn para am bythefnos o leiaf!'
Meddyliwch petaech chi'n clywed y rhagolygon yma ar y teledu heno …
'Yfory, bydd hi'n bwrw pysgod dros Bowys … bydd hi'n bwrw adar dros Wynedd a bydd hi'n bwrw losin neu fferins dros Ddwyrain Cymru. Mae'n bosib y bydd hi'n bwrw aligatoriaid dros rannau o Geredigion.'
Ydy, mae hyn i gyd yn bosib (er, efallai bod y syniad o fwrw aligatoriaid yn llai posib na'r lleill!)
Oherwydd lleoliad Cymru, mae gwyntoedd cryf yn dod o'r gorllewin yn weddol aml, ac oherwydd bod y gwyntoedd yma'n teithio dros y môr, maen nhw'n wyntoedd gwlyb iawn ac maen nhw'n dod â llawer iawn o law i ni.
Weithiau, mae'r glaw yma'n cyfarfod â ffrynt oer o'r gogledd neu'r dwyrain ac mae hyn yn gallu creu eira.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
idiom | ffordd arbennig o ddweud rhywbeth | idiom |
gwayw-fwyeill | lluosog 'gwyaw-fwyell' - hen arf, sef darn hir o bren fel gwaywffon â llafn fel bwyell a phigyn o ddur ar y pen | halberd |
drom | ffurf fenywaidd ‘trwm’ | heavy |
rhagolygon | darn sy’n sôn am beth sy’n mynd i ddigwydd | forecast |
anarferol | rhywbeth sydd ddim yn arferol | unusual |
aligatoriaid | mwy nag un aligator | alligators |