Dau lun ... un hanes

Rhifyn 3 - Dŵr
Dau lun ... un hanes

Edrychwch ar y ddau lun isod. Mae'r ddau'n dyddio o 1961 ac maen nhw'n dangos pobl yn gadael eu cartref. (Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.)

citalgarth2_663x327.jpg

Pam mae'r bobl yma'n gadael eu cartref?

map_article1_3.jpgYn y 1950au, roedd cyngor dinas Lerpwl yn poeni na fyddai digon o ddŵr ar gael ar gyfer pobl Lerpwl. Felly, aethon nhw at y llywodraeth yn Llundain i drafod hyn a phenderfynodd y llywodraeth mai'r peth gorau i'w wneud oedd cael cronfa ddŵr newydd yng Nghymru a pheipio'r dŵr oddi yno i Lerpwl.

Y ffordd orau o wneud hyn, yn eu barn nhw, oedd boddi cwm yng ngogledd Cymru - Cwm Tryweryn, ger Y Bala - er bod pobl yn byw yno.

Felly, ym mis Awst 1957, penderfynodd y llywodraeth foddi Cwm Tryweryn.

  • Roedd rhaid i bobl yr ardal bacio'u heiddo a gadael eu cartrefi.
  • Roedd rhaid cau swyddfa'r post.
  • Roedd rhaid cau'r ysgol.
  • Roedd rhaid cau'r capel.
  • Roedd rhaid codi'r cyrff o'r fynwent a'u claddu yn rhywle arall.
  • Roedd rhaid dymchwel y tai.
  • Roedd rhaid symud yr anifeiliaid o'r ffermydd.
  • Roedd rhaid boddi 12 fferm.
  • Roedd rhaid boddi tua 800 erw o dir.

ROEDD RHAID …  doedd dim dewis. 

Yna, yn 1961, roedd rhaid i'r bobl adael eu cartrefi - fel mae'r ddau lun yn dangos.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dyddio o nodi'r dyddiad mae rhywbeth yn digwydd to date from
cronfa ddŵr llyn artiffisial sy'n cynnwys dŵr sy'n cael ei beipio i ardal arbennig reservoir
cyrff lluosog 'corff' bodies
dymchwel tynnu i lawr to demolish
erw darn o dir tua 4,047 metr sgwâr acre