Perygl!

Rhifyn 3 - Dŵr
Perygl!

dolphin3.jpgMae llawer o bobl yn dod i Orllewin Cymru yn ystod yr haf bob blwyddyn. Mae rhai'n dod i fwynhau'r traethau glân a'r môr glas ond mae rhai'n dod er mwyn ceisio gweld y dolffiniaid sy'n nofio ym Mae Ceredigion.

Mae dolffiniaid yn greaduriaid hardd. Maen nhw'n anifeiliaid cyfeillgar a charedig hefyd. Yn ôl rhai, mae cysylltiad arbennig rhwng dolffiniaid a phobl. Mae rhai pobl yn mwynhau nofio gyda nhw mewn canolfannau arbennig ac maen nhw'n cael eu derbyn gan y dolffiniaid. Yn ogystal, mae hanesion am ddolffiniaid yn helpu pobl mewn perygl ar y môr.

Ydyn, maen nhw'n greaduriaid rhyfeddol a dylen ni eu parchu. Yn anffodus, maen nhw'n anifeiliaid sydd o dan fygythiad hefyd. Mae newid yn yr hinsawdd, rhwydi pysgota a llygredd yn peryglu eu bodolaeth - heb sôn am greulondeb dyn tuag atyn nhw!

Creulondeb dyn

Mewn rhai rhannau o'r byd, mae dolffiniaid yn cael eu hela a'u lladd mewn modd creulon iawn. Yn ardal Taiki, Wakayama, Japan, er enghraifft, mae helfa flynyddol ac mae cannoedd yn cael eu lladd.

Beth sy'n digwydd? Mae dynion yr ardal yn gorfodi'r dolffiniaid i mewn i fae bychan ac yna'n gosod rhwydi yn y dŵr fel nad yw'n bosib iddyn nhw ddianc. Yna, mae'r dynion yn eu trywanu a'u lladd - dolffiniaid mawr, hardd a dolffiniaid bach, ifanc.

Mae'r bobl leol yn gwerthu cig rhai o'r dolffiniaid marw mewn marchnadoedd lleol - er bod rhai'n dweud nad yw'r cig yn ddiogel i'w fwyta.

Lladd dolffiniaid a morfilod

Mae tua 20,000 o ddolffiniaid yn cael eu lladd yn Japan bob blwyddyn. Mae pobl Japan yn eu trin nhw fel pysgod.

Dolffin - mamal neu bysgodyn? Dyma'r ffeithiau:

Mae'r dolffin yn anadlu drwy ysgyfaint - nid tagelli. Rhaid iddo ddod i wyneb y dŵr bob hyn a hyn i anadlu. Mae ei waed yn gynnes.

Nid yw'r dolffin yn dodwy wyau fel pysgod. Mae dolffiniaid bach yn cael eu geni - fel mamaliaid eraill. Ar ôl geni, mae'r dolffin yn bwydo'r dolffin bach â llaeth.

Felly, ai mamal neu bysgodyn ydy'r dolffin?

Anfoesol!

Mae llawer o bobl yn dweud bod hela dolffiniaid yn anfoesol. Dyna farn yr actores Hayden Panettiere.

Yn 2007, aeth hi a phump o bobl eraill allan i ganol y dolffiniaid ar eu byrddau syrffio yn ystod yr helfa flynyddol yn Taiki, Japan. Roedden nhw eisiau tynnu sylw'r byd at y creulondeb. Roedd hyn, wrth gwrs, yn beth peryglus iawn i'w wneud.

"Roedd dŵr y môr yn goch gan waed," dywedodd Hayden mewn cyfweliad ar ôl y digwyddiad. 

Lwyddon nhw ddim i achub y dolffiniaid, yn anffodus, a bu'n rhaid iddyn nhw ddianc o'r dŵr pan drodd y dynion yn y cychod yn eu herbyn, ond fe lwyddon nhw i dynnu sylw'r byd at yr arfer barbaraidd.

Yn 2009, cafodd ffilm o'r enw The Cove ei rhyddhau sy'n dangos y digwyddiad erchyll.

Mae pobl yn dal i hela dolffiniaid yn yr ardal heddiw, ond diolch i bobl fel Hayden ac i'r ffilmThe Cove, mae mwy o bobl yn ymwybodol o ba mor farbaraidd yw'r arfer ac mae mwy a mwy o bobl yn dod i brotestio bob blwyddyn.

Hayden Panettiere

Geni: Awst 21, 1989, Efrog Newydd
Gwaith: Actores. Roedd hi mewn hysbyseb ar y teledu cyn iddi fod yn flwydd oed.

hayden.jpgPan oedd hi'n blentyn:

  • bu mewn nifer o hysbysebion ar y teledu
  • bu mewn nifer o operâu sebon.

Rhai rhannau pwysig:

  • 1998: A Bug's Life (llais Dot)
  • 2000: Dinosaur
  • 2000: Remember the Titans
  • 2003: Racing Stripes
  • 2003-2005: Malcolm in the Middle
  • 2004: Raising Helen
  • 2004: Ice Princess (Disney)
  • 2008: Fireflies in the garden
  • 2006: Heroes

Llun © Glenn Francis, www.PacificProDigital.com

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyfeillgar yn barod i fod yn ffrindiau friendly
rhwydi mwy nag un rhwyd nets
helfa y broses o hela hunt
tagell,-i; tegyll rhan o gorff pysgodyn sy’n ei alluogi i anadlu gills
anfoesol yn hollol anghywir immoral