Mae'n gyflym! … Mae'n gyffrous! … Mae'n wlyb! … Mae'n hwyl! … Mae'n ffordd dda o gadw'n heini ac o leihau stres! … Beth ydy o?
Hoci o dan y dŵr!
Mae chwarae hoci o dan y dŵr yn eitha tebyg i chwarae hoci ar y cae, ond bod y chwaraewyr yn chwarae mewn dŵr - nid ar laswellt neu mewn mwd!
Hoffech chi gymryd rhan yn y gêm? Rydyn ni'n chwilio am aelodau newydd i'n timau ni - dynion a merched.
Dyma sut mae chwarae:
Rhaid cael dau dîm a rhaid cael deg aelod ym mhob tîm. Bydd chwe aelod yn chwarae ar y tro, gyda'r pedwar arall yn cael eu heilio bob hyn a hyn.
Rhaid i'r chwaraewyr wisgo maneg arbennig, mwgwd, snorcel, cap ac esgyll arbennig.
Rhaid chwarae gyda:
• ffon eitha byr - tua 0.3 metr o hyd
• cnap trwm
• gôl - tua 3 metr o hyd
• Rhaid i'r ddau dîm fynd i mewn i'r pwll nofio a rhaid aros yn ymyl y wal, y tu ôl i'w gôl.
• Rhaid i'r dyfarnwr roi cnap ar waelod y pwll nofio - ar ganol y pwll nofio.
• Yna, pan fydd y dyfarnwr yn chwibanu, neu pan fydd gong yn canu, rhaid i bawb ddeifio i waelod y pwll. Cyn deifio, rhaid iddyn nhw anadlu'n ddwfn er mwyn llenwi'r ysgyfaint ag aer.
• Yna, gan ddefnyddio'r ffon fach, rhaid i un o'r tîm daro'r cnap. Rhaid iddyn nhw ei basio i aelodau eraill o'r tîm nes bydd un ohonyn nhw'n gallu saethu at y gôl. Rhaid i aelodau'r tîm arall geisio ennill y cnap a'i symud i gyfeiriad y gôl arall.
• Rhaid chwarae am tua 10-15 munud bob ochr. Bydd y timau'n newid ochr ar ôl hanner amser.
Mae chwarae fel tîm yn bwysig iawn oherwydd rhaid i bawb, yn ei dro, nofio i fyny a chodi ei ben allan o'r dŵr er mwyn cymryd anadl!
Y tîm sy'n sgorio'r nifer fwyaf o goliau sy'n ennill.
Beth amdani?
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni!
hocidŵr@net
Dyma gêm arall sy'n cael ei chwarae o dan y dŵr.
Tybed beth yw'r gêm yma? Edrychwch yn ofalus ar y llun, dyfalwch ac ewch ar y we i weld ydych chi'n iawn.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
lleihau | gwneud yn llai | to reduce |
ar y tro | yr un pryd | the same time |
cael eu heilio | cael eu dewis i chwarae yn lle rhywun arall | to be substituted |
esgyll | fel arfer rhyw fath o ‘adenydd’ sydd gan bysgod i’w helpu i nofio | fins |
cnap | y ‘bêl’ maen nhw’n chwarae â hi | puck |
ysgyfaint | organau yn y corff sy’n eich helpu chi i anadlu | lungs |
bob hyn a hyn | nawr ac yn y man | every now and then |