Darllenwch y ddau ddarn yma o'r gyfrol Ta-ta Tryweryn gan Gwenno Hughes.
'Dydi o ddim yn wir, yn nag ydi, Miss?' gofynnodd Huw.
Atebodd hi ddim.
'Yn nag ydi?' meddai Huw eto, mewn llais bach, bach.
'Wel, mae 'na ryw si …' atebodd hithau.
Allai Bedwyr ddim credu ei glustiau!
'Does dim eisio i chi ddychryn na chynhyrfu,' meddai Miss, 'achos dim ond si ydi o …'
Gellid clywed pin yn disgyn.
'Ond pam fyddai pobol o Lerpwl eisio boddi ein cwm ni, Miss?' holodd Bedwyr.
'Am eu bod nhw'n meddwl mai dyna'r ffordd orau i wneud yn siŵr for Lerpwl yn cael digon o ddŵr - drwy greu cronfa a phwmpio'r dŵr trwy bibellau i'r ddinas,' eglurodd hithau.
'Oes 'na ddim digon o ddŵr yn yr afon Mersi, Miss?' meddai Mari mewn penbleth.
Ysgydwodd Miss ei phen.
'Mae Lerpwl yn mynd yn fwy ac yn fwy bob dydd,' meddai, 'ac mae Cyngor Lerpwl yn meddwl na fydd 'na ddigon o ddŵr i gynnal y ddinas erbyn diwedd y ganrif.'
'Sut maen nhw'n gwybod hynny?' gofynnodd Huw. 'Dim ond 1956 ydi hi.'
'Dyna maen nhw'n ei ragweld,' atebodd Miss.
'Mae 'na ddigon o lynnoedd yn Lloegr,' meddai Bedwyr. 'Pam na fedran nhw bwmpio dŵr i Lerpwl o'r rheini?'
'Mae Cyngor Lerpwl yn credu y byddai hi'n rhatach iddyn nhw greu cronfa yma,' atebodd Miss.
'Oes 'na ddim cwm allan nhw ei foddi yn Lloegr?' gofynnodd Iolo.
Codi a gostwng ei hysgwyddau wnaeth Miss.
'Ond dydi hynna ddim yn deg!' ebychodd yntau.
'Fedran nhw ddim boddi'r cwm yma - a phentre Capel Celyn - jest er mwyn creu cronfa! Mi fydden nhw'n gorfod boddi'n tŷ ni!' sylweddolodd Mari.
'A'n tŷ ni!'
'A'n tŷ ninnau!'
Roedd pawb yn syfrdan.
'A'r ysgol!
Cyfarfu Bedwyr y tri arall yn nhŷ Iolo.
'Wyt ti wedi cofio'r anrheg?' gofynnodd i Mari.
'Wrth gwrs.' Dangosodd Mari barsel oedd wedi'i lapio mewn papur llwyd. Roedd
Bedwyr wedi trefnu casgliad i brynu ffrâm llun i Miss. Roedd ffotograffydd o
Lundain wedi tynnu llun ohoni hi a'r disgyblion yn sefyll tu allan i'r ysgol reit ar ddechrau'r ymgyrch saith mlynedd yn ôl, ac roedden nhw wedi gosod hwnnw yn y ffrâm.
Doedd gan neb fawr o ddim i'w ddweud ar y ffordd i'w hen ysgol. Aethant heibio i'r orsaf. Roedd hi wedi cau. Yna aethant heibio'r capel. Fyddai hi fawr o dro nes y bydden nhw'n cau'r drysau am y tro olaf yno hefyd.
Chwyrlïodd lorri drom tuag atynt. Neidiodd y pedwar i'r clawdd o'r ffordd. Tasgwyd dŵr o bwll budur dros Mari.
'Allan nhw ddim stopio gweithio hyd yn oed ar ddiwrnod fel heddiw?' bytheiriodd. Roedd ei ffrog hi'n stremps i gyd.
Roedd Bedwyr hefyd wedi cael llond ei fol ar lorïau Cyngor Lerpwl. Reodden nhw'n rhuo i fyny ac i lawr y cwm, trwy'r dydd, bob dydd, gan wasgaru llwch a budreddi i bobman. Roedden nhw'n cario graean a cherrig i ben uchaf y cwm lle'r oedd gwaith o adeiladu'r argae eisoes wedi dechrau.
'Fydd hi ddim yn hir nes y byddan nhw'n cario cerrig o waliau'r ysgol i'r argae,' meddai Iolo. Roedd y pedwar yn gwybod mai dyna fyddai hanes cerrig eu tai hwythau hefyd, unwaith y bydden nhw'n cael eu chwalu …
Gwenno Hughes, Ta-ta Tryweryn, Gomer, 2008, tt. 54-56
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
si | sôn | rumour |
cronfa | llyn artiffisial sy’n cynnwys dŵr sy’n cael ei beipio i ardal arbennig | reservoir |
afon Mersi | Afon yng Ngogledd-orllewin Lloegr. Mae Lerpwl wedi ei adeiladu ar aber yr afon. | the river Mersey |
mewn penbleth | wedi drysu braidd | confused |
syfrdan | wedi syfrdanu, wedi synnu | dumbstruck |
ymgyrch | gweithred i dynnu sylw at rywbeth, e.e. protest | campaign |
chwyrlïo | teithio’n gyflym, gan droi weithiau | to whiz, whirl |
bytheirio | gweiddi’n flin | to bellow |
stremps | llanast | mess |
gwasgaru | taflu i bob man | disperse |
argae | wal ar draws cronfa i gadw’r dŵr yn ôl | dam |