Mae dŵr yn bwysig iawn. Rhaid i ni gael dŵr i fyw.
Rhaid i ni gael dŵr i'w yfed. Rhaid i ni gael dŵr i goginio. Rhaid i ni gael dŵr i ymolchi - i gael gwared ar germau a bacteria o'n cyrff. Rhaid i ni gael dŵr i olchi ein dillad. Rhaid i ni gael dŵr ar gyfer systemau carthffosiaeth, sef toiledau a draeniau sy'n cael gwared ar beth sydd yn y toiledau.
Rydyn ni'n lwcus. Mae gennym ddigon o ddŵr … ond nid dyna'r sefyllfa mewn rhannau eraill o'r byd!
Edrychwch ar y prif lun ar ben y dudalen o Aminata Dicko (14 oed) yn casglu dŵr yn Ourare Alaye Tem, Mondoro, Douentza. (Llun gan WaterAid/Layton Thomas.)
Yn y gwledydd sy'n datblygu - sef rhannau o Asia, Affrica a De America - mae gwragedd a phlant yn treulio oriau bob dydd yn cario dŵr o ffynhonnau, nentydd ac afonydd i'w cartrefi. Maent yn gorfod cerdded sawl cilometr bob dydd ac mae hyn yn cymryd llawer o amser. Oherwydd hynny, mae'r gwragedd yn methu gweithio ac ennill arian ac mae'r plant yn methu mynd i'r ysgol.
Mae gwragedd yn Asia ac Affrica'n cario tua 20 kg o ddŵr ar eu pennau. Yn aml iawn, mae'r dŵr maent yn ei gasglu yn frwnt neu'n fudr ac yn llawn germau, ond nid oes ganddynt ddewis!
Petai plant a phobl yn gallu golchi eu dwylo â dŵr glân a sebon, byddai nifer yr achosion o ddolur rhydd yn haneru, bron (47%).
O'r chwith i'r dde uchod: Plentyn yn cario dŵr brwnt mae wedi ei gasglu yn y ffynnon, Ené, Koro, Mali gan WaterAid/Layton Thomas; plentyn yn chwarae â dŵr glân o'r pwmp llaw newydd, Hambale, Chipenbele, Zambia gan WaterAid/Anna Kari Thompson.
Mae elusennau fel Water Aid yn gweithio er mwyn gwneud yn siwr bod pobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael dŵr glân a systemau carthffosiaeth da. Yn ogystal, maen nhw'n addysgu pobl dlotaf y byd am bwysigrwydd golchi dwylo a materion sy'n ymwneud â hylendid.
Gwybodaeth a lluniau drwy garedigrwydd WaterAid. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.wateraid.org
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
carthffosiaeth | toiledau a draeniau | sanitation, sewerage |
y byd sy’n datblygu | rhannau o Asia, Affrica a De America | the devloping world |
ysgarthion, carthion | gwastraff sy’n cael ei waredu o’r corff | faeces |
hylendid | mae’n gysylltiedig â bod yn lân ac yn iach | hygiene |
parasit,-iaid | rhywbeth sy’n byw ar y corff ac sy’n cymryd maeth / bwyd o’r corff | parasite,-s |
dolur rhydd | problem yn y coluddyn, lle mae’n rhaid mynd i’r toiled yn aml iawn | diarrhoea |
annheg | rhywbeth sydd ddim yn deg | unfair |