Annwyl ddyddiadur …

Rhifyn 31 - Ar ddechrau blwyddyn ...
Annwyl ddyddiadur …

02 Rhagfyr, 2015

Annwyl ddyddiadur,

Wel, mae hi’n ddechrau blwyddyn arall ac eleni dw i wedi penderfynu newid fy ffordd o fyw. Dyma’n fras beth dw i’n gobeithio ei wneud:

  • cadw’n heini – dw i’n mynd i drïo’n galetach yn y gwersi chwaraeon.  O hyn ymlaen, bydda i’n rhedeg nerth fy nhraed yn y gwersi athletau. Pwy a ŵyr, efallai bydda i’n rhedeg dros Gymru cyn bo hir – os gweithia i’n galed. Hefyd, dw i wedi cael tocyn am 12 gwers carate yn y ganolfan hamdden (anrheg Nadolig gan Dad). Felly, dw i’n mynd i ddechrau dysgu’r gamp. Edrych ymlaen yn fawr!
  • cerdded mwy – bydda i’n mynd mas i gerdded gyda’r teulu dros y penwythnos yn lle aros yn y tŷ yn mwynhau fy hun (“Mae cerdded yn dda i’r corff a’r meddwl!” meddai Dad!).
  • bwyta’n iach – mwy o ffrwythau a llysiau i fi eleni – a llai o sglodion a chreision!
  • agor cyfrif banc – Mae Dad yn sôn byth a hefyd am gynilo arian. Dw i wedi cael llond bola ar ei glywed e’n dweud, “John, mae’n hen  bryd i ti fod yn fwy cyfrifol gydag arian!”  Mae e’n meddwl fy mod i’n gwario gormod o arian ar ddillad (dw i ddim yn cytuno!) ond eleni dw i’n mynd i ddangos iddo fe!!! Dw i’n mynd i gynilo hanner fy arian poced bob wythnos ac yna, ar ddiwedd y flwyddyn, fe wna i ddangos iddo fe faint o arian sydd gyda fi yn y cyfrif. Dw i’n mynd i gynilo hanner yr arian mae Mam-gu’n ei roi i fi am ei helpu hi bob dydd Sadwrn hefyd.
  • bod yn fwy positif – dw i’n mynd i ofyn i Erin fynd ma’s gyda fi ac os yw hi’n gwrthod, fe wna i ofyn i Emma!
  • ffrindiau – mae llawer o ffrindiau da gyda fi ac felly dw i’n mynd i wneud mwy o bethau gyda nhw eleni. Dw i’n mynd i fod yn ffrind da iawn! Gobeithio y bydda i’n gwneud ffrindiau newydd hefyd!

Mae eleni’n mynd i fod yn flwyddyn fawr i fi – ond dw i wedi blino’n lân nawr. Felly hwyl fawr! Dw i’n mynd i gwtsio yn y gwely cynnes a chael napyn bach arall. 

Hwyl fawr am y tro!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dihuno deffro to wake up
yn fras heb lawer o fanylion roughly
o hyn ymlaen yn y dyfodol from now on
pwy a ŵyr? pwy sy’n gwybod? who knows?
agor cyfrif banc trefnu gyda’r banc eich bod chi’n mynd i roi arian i’r banc i’w gadw’n ddiogel i chi; mae’n bosib y bydd y banc yn ychwanegu ychydig o arian at eich arian chi (dyna beth yw llog); fel arfer rydych chi’n gallu tynnu’r arian o’r banc pan fyddwch chi eisiau to open a bank account
byth a hefyd drwy’r amser all the time
cwtsio swatio e.e. mynd i mewn i’r gwely’n ddyfnach a thynnu’r dillad gwely’n dynn o’ch cwmpas to snuggle