Byrgers pryfed ... cookies criciaid ... burritos pryfed ... hufen iâ cyffug gyda mwydod bambŵ - dyna rai o’r pethau gallwch chi eu bwyta os ewch chi i dŷ bwyta newydd yn Nhyddewi. Grub Kitchen ydy enw’r lle ac mae’n cynnig prydau pryfed ochr yn ochr â phrydau mwy traddodiadol.
Mae’r prif gogydd, Andrew Holcroft, fel unrhyw gogydd gwerth ei halen, eisiau creu prydau bwyd diddorol a blasus yn y tŷ bwyta ond yn ogystal, mae e eisiau dangos bod bwyta pryfed yn gallu bod yn beth “normal” iawn. Wedi’r cyfan, mae dros ddwy filiwn (2 000 000 000) o bobl ar draws y byd yn bwyta pryfed heddiw.
Ar hyn o bryd, mae’r tŷ bwyta’n mewnforio’r pryfed o Ganada a’r Iseldiroedd ond mae partner Andrew Holcroft, Dr Sarah Beynon, wedi dechrau ffermio pryfed gerllaw er mwyn dangos y gallai pryfed gymryd lle cigoedd eraill fel porc, cig eidion, cig oen ac yn y blaen. Nid yw’n gyfreithiol ffermio pryfed i’w bwyta ym Mhrydain ar hyn bryd.
Bwyd maethlon
Mae pryfed yn faethlon iawn. Edrychwch ar y sboncyn y gwair yma, er enghraifft, sy’n cynnwys llawer o haearn a chalsiwm.
Cymharwch y maeth sydd yn y creadur bach yma â’r maeth sydd mewn byrger cig eidion arferol.
Faint mewn 100 gram:
|
Sboncyn y gwair |
Byrger cig eidion |
Protein Braster Carbohydradau |
tua 14g tua 3g tua 2g |
16g 17g 5g |
Mae rhai pobl yn dweud bydd rhaid i ni fwyta mwy o bryfed yn y dyfodol gan fod poblogaeth y byd yn cynyddu mor gyflym. Felly, yn y dyfodol, efallai y byddwn ni’n bwyta sboncynnod y gwair mewn reis wedi ffrio neu mewn meringue. Pwy a ŵyr?
Barn y cyhoedd
Beth ydych chi’n ei feddwl o’r syniad o fwyta pryfed?
Ydych chi eisiau bwyta’r pryfed blasus sy’n cael eu cynnig yn y Grub Kitchen neu ydy’ch stumog chi’n troi wrth feddwl am fwyta mwydod (pryfed genwair yn y gogledd), criciaid neu bryfed eraill?
Postiwch eich syniadau isod.
Sylwadau
Pam lai? Mae dwy filiwn (2 000 000 000) o bobl yn bwyta pryfed yn barod, felly pam lai?
Bwyta pryfed? Dim diolch! Dw i wedi edrych ar luniau o’r pryfed yma ar y we ac maen nhw’n edrych yn ofnadwy.
Dyna pam dydy pobl ddim eisiau eu bwyta nhw – achos maen nhw’n edrych yn ofnadwy. Petai pobl yn cau eu llygaid i’w bwyta, efallai y bydden nhw’n eu mwynhau nhw.
Dw i ddim yn meddwl!
Mae bwyta pryfed yn well i’r amgylchedd.
Pam?
Maen nhw’n bwyta llai a hefyd maen nhw’n cynhyrchu llai o nwyon, felly mae bwyta pryfed yn well i’r amgylchedd na bwyta cig arferol.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cynrhon y blawd | cynrhon bach brown | mealworms |
criciaid | lluosog criced / cricedyn | crickets |
cyffug | fferins / losin wedi eu gwneud o siwgr, menyn a llaeth | fudge |
mwydod bambŵ | lindys brown | bamboo worms |
gwerth ei halen | da iawn | worthwhile |
mewnforio | prynu i mewn o wlad arall | to import |
maethlon | llawn maeth | nutritious |
pwy a ŵyr? | pwy sy’n gwybod? | who knows? |