Blwyddyn newydd … a … dechrau newydd – dyna beth mae pobl yn ei ddweud wrtho i! Ond sut galla i gredu hyn?

Meddwl am y gorffennol ydw i yn hytrach nag am y dyfodol!  Edrych yn ôl dros brofiadau erchyll y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf. Blynyddoedd uffernol! Y saethu … y bomiau … y sŵn byddarol. Dynion mewn mygydau du’n dod fin nos ac yn cymryd ffrindiau a theulu i’w harteithio a’u lladd. Ffrindiau a theulu annwyl na welson ni byth eto. Sut galla i eu hanghofio?

Mae’n ddigon hawdd i bobl y gorllewin ein pitïo ni wrth iddyn nhw edrych ar y lluniau. Ond does dim syniad gyda nhw! Dw i wedi gweld drosof fy hun. Dw i wedi gweld y cyrff yn gorwedd o dan adeiladau sydd wedi dymchwel.  Dw i wedi clywed y plant bach yn crio mewn dychryn. Dw i wedi teimlo galar y mamau’n wylo am eu plant. Dw i wedi arogli budreddi marwolaeth.  Sut galla i anghofio?

Ydw, dw i wedi gweld drosof fy hun. Mae fy nheulu wedi gweld pethau na ddylai unrhyw berson ei weld byth! Dyna pam penderfynodd fy nhad un bore fod rhaid i ni, fel teulu, adael. Felly dyna ffarwelio ar frys â Nain a Taid, modrybedd ac ewythredd a gadael ym mherfeddion y nos – noson dywyll, dawel – am y ‘man gwyn man draw’. Cerdded heb siw na miw yn gyflym rhag ofn i ni gael ein dal. Stopio unwaith yn unig i roi cip sydyn dros ein hysgwydd ar gartref na fydden ni byth yn ei weld eto.

Yna, taith flinedig, hir drwy Syria ac ymlaen drwy Dwrci a chyrraedd y porthladd a’r môr glas disglair yn ymestyn o’n blaen fel carped hud sidan, disglair i’n tywys i fywyd gwell.

Talu crocbris wedyn i smyglwyr – pobl greulon, hunanol – a chael ein stwffio i mewn i ddingi bach er mwyn croesi i Roeg. 

Taith erchyll! Roedd tonnau’r môr yn gwneud i’r dingi sboncio i fyny ac i lawr … i fyny ac i lawr nes ein bod yn swp sâl. Yna, cyrraedd Ynys y Gwyliau. Ie, Ynys y gwyliau! Yno roedd merched yn eu bicinis yn torheulo o dan yr haul poeth yn hollol ddigywilydd!  Dynion ifanc yn cicio pêl heb unrhyw ofid yn y byd. Mamau balch yn rhwbio eli haul dros groen gwyn eu plant! Teuluoedd technolegol yn gwrando ar i-pads … yn tecstio’i gilydd … yn chwarae gemau ar sgriniau. Basgedi picnic yn llawn ffrwythau, diodydd oer … a ninnau’n wlyb at ein crwyn, yn ymladd am ein bywyd, yn cyrraedd heb ddim.  DIM!

Ymlaen wedyn drwy Serbia … a Hwngari a wynebu ffensys weiar bigog a dynion mawr, caled mewn iwnifformau tywyll yn cario gynnau ac yn gweiddi arnon ni’n gas. Pam roedden nhw mor oeraidd tuag aton ni? Pam doedden nhw ddim yn gadael i ni groesi’r ffin? Pam doedden nhw ddim yn gallu gweld mai pobl oedden ni – jyst fel nhw? Ac i wneud pethau’n waeth, ein dynion ni’n ymladd –  ymladd dros botelaid fach o ddŵr! Am sefyllfa druenus!

Ac yna cerdded … cerdded … cerdded am filltiroedd … a milltiroedd … a milltiroedd.

Ond dyma ni, o’r diwedd, yn yr Almaen … yn bell o’n teulu … yn bell o’n ffrindiau … yn bell o’n gwlad. “Bydd pethau’n gwella,” mae Mam yn ei ddweud. “Rhaid edrych ymlaen i’r dyfodol, nid hel meddyliau am y gorffennol,” yn ôl Dad. Ond fedra i ddim anghofio. Mae’r delweddau real yn rhan ohono i – y cyrff, y bomiau, y daith, y plant bach yn sgrechian. Maen nhw’n gyda fi bob nos. 

Edrych ymlaen? Sut galla i?

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
erchyll ofnadwy iawn dreadful, terrible
byddarol digon i’ch gwneud chi’n fyddar deafening
mygydau lluosog mwgwd; rhywbeth rydych chi’n ei wisgo dros eich wyneb masks
arteithio gwneud rhywbeth sy’n achosi poen ofnadwy i rywun er mwyn cael gwybodaeth fel arfer to torture
wedi dymchwel wedi cael eu bwrw i lawr collapsed
galar tristwch ar ôl i rywun farw grief
budreddi pethau, sefyllfa sy’n fudr / frwnt filth
ym mherfeddion y nos yn nhywyllwch y nos in the middle of the night
man gwyn man draw lle hyfryd yn rhywle arall a lovely place elsewhere
heb siw na miw yn hollol dawel quietly
tywys mynd â to lead
crocbris pris uchel iawn a very high price
digywilydd heb unrhyw deimlad o gywilydd shamelessly
hel meddyliau meddwl am bethau to dwell on things