Beth mae pobl yn hoffi ei wneud heddiw?
Ond beth fydd pobl y dyfodol yn mwynhau gwneud? Darllenwch y ddau lythyr yma.
Cartref
14 Maes y Dre
Aberaeron
Annwyl Gweiddi
Mae’r arbenigwyr yn dweud bod ein harferion hamdden ni’n newid ac y byddan nhw’n newid eto yn y dyfodol.
Heddiw, mae pobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi yn chwarae gemau cyfrifiadur ac yn siarad ar gyfryngau cymdeithasol fel facebook yn lle mynd allan i fwynhau gyda ffrindiau ac i gyfarfod â phobl newydd. Mae siarad â “ffrindiau” ar-lein yn beth pleserus wrth gwrs. Mae gwybod beth mae pobl eraill yn ei wneud yn ddiddorol ac mae’n braf cael rhannu lluniau. Ond mae treulio gormod o amser yn defnyddio’r cyfryngau hyn yn gallu creu problemau. Oherwydd bod pobl yn mynd allan i gymdeithasu llai, mae’n bosib bod ganddyn nhw lawer o ffrindiau ‘pell’ ar-lein ond llai o ffrindiau agos yn y cnawd. Trueni mawr!
Problem arall yw bod llai o bobl yn gwneud pethau, e.e. llai o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon go iawn gan eu bod yn chwarae gemau rhithwir cyffrous ar y cyfrifiadur. Eto, mae chwarae gemau cyfrifiadur yn hwyl a dw i fy hun yn cael oriau o bleser yn gwneud hyn. Ond mae treulio gormod o amser yn chwarae gemau cyfrifiadur yn peryglu iechyd pobl. Yn ogystal, mae’n bosib y bydd llai o bobl yn mynd allan i gerdded neu i redeg yn y wlad yn y dyfodol wrth iddyn nhw ganolbwyntio mwy ar eu peiriannau technolegol a bydd eu bywyd, felly, yn llai lliwgar ac yn llai pleserus.
Ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, felly, dw i wedi penderfynu peidio â threulio cymaint o amser ar fy nhabled a fy ngliniadur. Fydda i ddim yn stopio’u defnyddio nhw’n llwyr achos maen nhw’n ddefnyddiol iawn (yn enwedig gyda gwaith ysgol!) a dw i’n cael llawer o hwyl wrth eu defnyddio. Ond bydda i’n gwneud ymdrech arbennig i wneud yn siwr fy mod i’n cymdeithasu gyda phobl go iawn. Bydda i’n mynd i’r clwb carate bob wythnos a bydda i’n parhau i feicio gyda’r teulu ar ddydd Sadwrn. Fydd fy mywyd i ddim yn cael ei reoli gan unrhyw fath o sgrin!
Yn gywir
Lyn Jones
Preswylfa
10 Ffordd y Pentre
Abertawe
Annwyl Gweiddi
Dw i wedi blino ar bobl yn lladd ar dechnoleg drwy’r amser gan ddweud bod pobl ifanc yn treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol neu eu bod nhw byth a hefyd yn syrffio’r we, neu’n siopa ar-lein neu’n postio lluniau ohonyn nhw eu hunain ac ati ac ati ac ati!
Fel disgybl ym Mlwyddyn 9, dw i wrth fy modd yn dod adre o’r ysgol a throi facebook ymlaen i weld beth mae ffrindiau neu’r teulu mewn gwahanol rannau o’r byd wedi bod yn ei wneud. Mae’n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad gyda phobl dw i ddim yn eu gweld bob dydd. Yn ogystal, diolch i Skype a Facetime dw i yn gallu siarad â’r bobl yma wyneb yn wyneb pan dw i eisiau.
Mae fy nhabled a fy nghyfrifiadur i’n fy helpu i gyda fy ngwaith cartref ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos! Dim ots pa fath o wybodaeth dw i eisiau, dw i’n gallu chwilio ar beiriant chwilio o fewn eiliadau ac mae hyn yn arbed taith ddiflas ar fws i’r llyfrgell ac oriau o bori drwy lyfrau (os ydyn nhw ar y silffoedd hynny yw!).
Mae fy mywyd i’n llawer cyfoethocach oherwydd technoleg. Dw i’n gallu edrych ar ffilmiau ... gwrando ar gerddoriaeth ... darllen pob math o bethau diddorol ... chwarae gemau ... teithio i unrhyw le yn y byd – Paris, Hong Kong, Dubai, Rio de Janeiro, Oslo – heb symud o fy nghadair – a heb wario ceiniog. Meddyliwch – flynyddoedd yn ôl roedd teithio o Dde Cymru i Ogledd Cymru’n cymryd dyddiau ond heddiw galla i fynd i gopa Mynydd Everest neu i’r Arctig o fewn dwy eiliad – a does dim angen i mi brynu dillad thermal chwaith!
Mae’r arbenigwyr yn dweud y bydd pobl yn defnyddio mwy a mwy o dechnoleg yn eu hamser hamdden yn y dyfodol. Gwych! Mae fy oriau hamdden i’n llawn technoleg yn barod.
Yn gywir
Ceri Evans
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
arferion | lluosog arfer; beth rydyn ni’n ei wneud fel arfer | customs |
cyfryngau cymdeithasol | cyfryngau sy’n caniatáu i ni gymdeithasu â phobl eraill | social media |
yn y cnawd | o gig a gwaed | in the flesh |
rhithwir | delweddau 3D sy’n ymddangos yn real ond sy’n cael eu creu gan gyfrifiadur | virtual reality |
lladd ar | dweud pethau yn erbyn rhywbeth neu rywun | to condemn, criticize |