
Bydd Rio de Janeiro yn y newyddion yn ystod haf 2016 oherwydd dyma ble bydd y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal. Hon yw dinas fwyaf ond un Brasil ac mae’n ddinas liwgar, ddiddorol a chyffrous.
LLIWGAR!
Hwyl … cyffrous … lliwgar … anhygoel. Dyna rai ansoddeiriau i ddisgrifio carnifal Rio de Janeiro, sy’n digwydd 40 diwrnod cyn y Pasg.
Dyma’r carnifal mwyaf yn y byd ac mae’n digwydd dros 5 diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Gwener a gorffen ar y dydd Mawrth cyn y Grawys.
Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan ac yn cael amser anhygoel!


DIDDOROL!
Mae miliynau o bobl yn dod i Rio de Janeiro bob blwyddyn i weld y carnifal a’r golygfeydd ysblennydd ac maen nhw’n cael eu syfrdanu gan y traethau anhygoel, yn enwedig Copacabana ac Ipamena. Dyma rai o draethau gorau’r byd.
CYFFROUS!
Fel yng ngweddill Brasil, mae pêl-droed yn boblogaidd yn Rio de Janeiro ac mae Stadiwm Maracanã yn stadiwm bwysig iawn. Dyma ble bydd seremonïau agor a chloi’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn digwydd.

Ydy, mae Rio de Janeiro’n ddinas fywiog, ddiddorol a chyffrous.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| golygfeydd | lluosog "golygfa" | sights, scenery |
| ysblennydd | ardderchog, gwych | splendid |
| maen nhw’n cael eu syfrdanu | maen nhw’n rhyfeddu | they are surprised |
| gweddill | pob rhan arall | all the other parts, the remainder |
| fodd bynnag | ond | however |