“Awtsh” gwaeddodd Erin wrth iddi syrthio’n galed ar y ddaear, wrth geisio rhwystro’r bêl rhag mynd i gefn y rhwyd.
“Gôl,” gwaeddodd Rhids a Matt.
“Awtsh,” cwynodd Erin eto, gan rwbio’i choes.
“Beth sy’n bod?” gofynnodd Lili, gan gerdded tuag at Erin.
“Dw i wedi baglu dros rywbeth caled yn y ddaear,” eglurodd Erin.
Rhedodd y ddau fachgen a Lili at Erin.
“Bobl bach! Bocs!” meddai Erin a defnyddiodd ei dwylo i frwsio’r pridd oddi ar wyneb y peth caled oedd yn y pridd. “Hen focs! Edrychwch. Tybed beth sy tu mewn iddo?”
Ar hynny, agorodd y bocs a safodd y pedwar ffrind yn hollol lonydd, fel pedwar delw, wrth i Erin godi llond dwrn o ddarnau aur a gadael iddyn nhw lifo yn ôl i mewn i’r bocs fel rhaeadr aur.
“Aur?” gofynnodd Lili.
“Darnau arian?” gofynnodd Matt.
“Dan ni’n gyfoethog,” chwarddodd Rhids, gan brancio o gwmpas fel ebol ifanc. “Dyn ni’n gyfoethog!”
“Sh,” rhybuddiodd Erin. “Rhaid i ni fod yn dawel am hyn. Dan ni ddim isio i bawb w’bod ein bod ni wedi ffeindio rhywbeth gwerthfawr.”
“Ydy o’n werthfawr?” gofynnodd Matt. “Mae’r bocs yn fudr iawn.”
“Mae o’n fudr achos mae o wedi bod yn y pridd ers blynyddoedd ... ers degau o flynyddoedd ... ers cannoedd o flynyddoedd ella.”
“Bobl bach!” eisteddodd Matt ar y glaswellt, yn wên o glust i glust.
“Ond beth dan ni’n mynd i ’neud gyda’r darnau yma?”
“Mae gan Yncl John siop gemwaith yn y dref. Rhaid i ni fynd i ofyn iddo fo,” awgrymodd Erin.
“Ond …?” dechreuodd Rhids.
“Dim ‘Ond’ Rhids! Rhaid i ni fynd at Yncl John rŵan. A rhaid i ni beidio deud wrth neb arall! Yna, os ydy’r darnau’n werthfawr, gallwn ni ddefnyddio’r arian i brynu anrhegion i’r teulu a ffrindiau – i roi syrpreis iddyn nhw.”
“Prynu anrhegion i’r teulu a ffrindiau?” gofynnodd Matt, fel pe bai’n methu credu ei glustiau. “Dw i’n mynd i wario’r arian arna i fy hun - hoffwn i gael tabled … a ffôn newydd... a hoffwn i gofrestru ar gwrs cic-focsio yn y gampfa ... a hoffwn i brynu strip tîm rygbi Cymru ... a hoffwn i …”
“Arhosa funud!” Stopiodd Rhids Matt ar ganol brawddeg. Dan ni ddim yn gw’bod beth ydy gwerth y rhain eto - beth am fynd i weld ‘Yncl John’?”
Ac i ffwrdd â nhw ...
“Na, nid aur ydyn nhw,” eglurodd Yncl John. “Efydd ydyn nhw ac, fel dach chi’n gw’bod, dydy efydd ddim mor werthfawr ag aur.”
“Ydy hynna’n wir?” gofynnodd Matt i Rhids.
“Dw i ddim yn gw’bod,” atebodd Rhids.
“Wyt ti’n ei drystio fo?” gofynnodd Matt eto.
“Dw i ddim yn siŵr,” atebodd Rhids.
“Mi wna i roi mil o bunna’ yr un i chi,” cynigiodd Yncl John.
“Faint?” gofynnodd Erin, yn methu credu ei bod hi’n mynd i gael mil o bunnau am syrthio ar hen focs ar y cae chwarae.
“Gwych!” dywedodd Lili.
“Iawn,” cytunodd y ddau fachgen gan fod y merched yn hapus a gan fod mil o bunnau’n well na dim.
“Gadewch i mi nôl y pres o’r sêff,” a cherddodd Yncl John i’r ystafell gefn.
“Dydy o ddim yn edrych yn llawer,” dywedodd Matt, gan ffanio’i wyneb gyda’r arian papur roedd Yncl John wedi ei roi iddo.
“Well i ti roi’r arian yn dy boced o’r golwg,” awgrymodd Lili. “Dan ni’n cerdded ar hyd y briffordd! Mae pawb yn gallu gweld yr arian yna!”
“Beth wyt ti’n mynd i ’neud efo fo?” gofynnodd Erin i Rhids.
“Dw i’n mynd i wario peth ohono fo a dw i’n mynd i roi peth yn y banc.”
“Rhoi peth yn y banc?” ebychodd Matt. “Dw i wedi deud beth dw i’n mynd i ’neud efo fo.”
“O, rwyt ti’n hunanol!” meddai Lili. “Ti … ti …ti! Dyna’r unig berson rwyt ti’n meddwl amdano fo drwy’r amser – TI!”
“O pwy wyt ti – Miss Perffaith, ia? A beth wyt ti’n mynd i ’neud efo’r arian? Rhoi’r cyfan i achos da?” gofynnodd Matt yn sarcastig.
“Does dim angen bod fel yna!” atebodd Lili.
“Ti ddechreuodd!” dywedodd Rhids, gan amddiffyn Matt.
“Hei, does dim angen i ti gymryd ochr Matt,” dywedodd Erin.
“Wel, rwyt ti’n cymryd ochr Lili rŵan on’d wyt ti?” gwaeddodd Matt
“Wel, os dach chi’n mynd i fod fel yna, dan ni’n mynd,” dywedodd Erin, gan afael ym mhenelin Lili a cherdded i ffwrdd â’i phen yn yr awyr.
“Peidiwch anghofio pwy ffeindiodd yr arian yn y lle cyntaf,” gwaeddodd yn ôl dros ei hysgwydd.
Y noson honno, roedd Erin a Lili’n eistedd ar y soffa yn nhŷ Lili, yn gwylio ffilm. Yn sydyn roedd curo swnllyd ar y drws ffrynt.
“Mi wna i fynd!” gwaeddodd mam Lili o’r gegin
Yna, agorodd drws yr ystafell fyw a phwy gerddodd i mewn ond Matt ... a Rhids ... a mam Lili yn eu dilyn nhw. Tu ôl iddyn nhw roedd plismones a phlismon.
Y plismon siaradodd gyntaf.
“Lili Prothero ac Erin Williams?”
Edrychodd y ddwy’n syn ar ei gilydd.
“Ia,” atebodd y ddwy, yn bryderus.
“Dewch efo ni i’r orsaf heddlu os gwelwch yn dda. Mi wnawn ni ffonio’ch rhieni chi, Erin, a gofyn iddyn nhw ddod i gyfarfod â ni yn Swyddfa’r Heddlu. Mae John Williams, y gemydd, yno’n barod.”
“Pam? Beth sy’n bod?” gofynnodd Erin?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ar hynny | yn dilyn hynny ar unwaith | thereupon, consequently |
llond dwrn | llond – yn llawn / dwrn – llaw wedi ei chau | fistful |
rhaeadr | dŵr yn llifo dros ryw fath o ddibyn | waterfall |
ella | ffurf lafar “efallai” | perhaps |