Mae adeilad Senedd Cymru’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed yn 2016. Cafodd ei agor ar 1 Mawrth, 2006.
Fuoch chi yno erioed? Mae llawer o ymwelwyr wedi bod yno dros y deng mlynedd diwethaf:
- Mae cannoedd o ddisgyblion o bob cwr o Gymru wedi dod i weld y Senedd.
- Mae 31 000 taith wedi bod o gwmpas y Senedd.
- Mae 1 000 000 o bobl wedi ymweld â’r adeilad.

Adeilad arbennig
Mae’r adeilad yn un arbennig iawn.
- Mae wedi ennill nifer o wobrau.
- Yr Arglwydd Richard Roberts, pensaer enwog, wnaeth y cynllun.
- Defnyddiodd lawer o ffenestri gwydr i ddangos bod pawb yn gallu gweld beth sy’n digwydd yn y Senedd.
- Mae’r adeilad i fod i bara 100 mlynedd.
- Mae 36% o’r deunyddiau’n dod o Gymru, gan gynnwys 1 000 tunnell o lechi o Gymru.
- Costiodd adeilad y Senedd £70m i’w godi.
- Er mwyn mynd i mewn i’r Senedd, mae’n rhaid mynd drwy system ddiogelwch sy’n debyg iawn i’r un mewn maes awyr.

Adeilad gwyrdd
Adeilad y Senedd yw un o’r rhai mwyaf gwyrdd yng Nghymru:
- Mae’n defnyddio rhwng 30% a 50% yn llai o ynni nag adeiladau arferol.
- Mae pibellau wedi cael eu drilio 100m o dan y ddaear. Pan fydd hi’n oer, mae dŵr yn cael ei bwmpio i lawr drwy’r pibellau ac mae ynni naturiol o’r ddaear yn twymo’r dŵr i 14°C. Wedyn, bydd y dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i’r llawr llechen er mwyn twymo’r adeilad.
- Mae dŵr glaw yn cael ei gasglu o’r to ac yn cael ei ddefnyddio i fflysio’r toiledau yn yr adeilad.
- Mae boeler biomas yn llosgi sglodion pren gwastraff er mwyn twymo’r adeilad.
Beth sy’n digwydd yn y gwahanol rannau o’r Senedd?
Os ydych chi’n edrych ar yr adeilad o’r tu allan, rydych chi’n gweld y Neuadd drwy’r ffenestri gwydr. Yma mae’r dderbynfa sydd â desg lechen fawr.
Yn Siambr y Senedd, mae’r 60 Aelod Cynulliad (AC) yn cwrdd i drafod. Mae’r seddi wedi’u gosod mewn cylch, gyda’r Prif Weinidog yn y rhes flaen. O flaen pob AC, mae desg o bren derw o Gymru.
Rydych chi’n gallu gwylio Aelodau’r Cynulliad os ewch chi i’r Oriel gyhoeddus. Yma mae’r twndis neu’r twmffat pren sy’n edrych fel coeden. Mae llawer o ystafelloedd pwyllgor hefyd yn yr adeilad. Yma, mae’r Aelodau’n trafod pethau penodol.