Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ers 2009

Rhifyn 35 - Gwleidyddiaeth
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ers 2009

Mae Carwyn Jones, A.C., yn Brif Weinidog Cymru ers mis Rhagfyr 2009. Cafodd ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ei deulu’n siarad Cymraeg ac mae llawer o berthnasau ganddo yn Nyffryn Aman. Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n gweithio fel bargyfreithiwr am ddeng mlynedd cyn cael ei ethol i’r Cynulliad yn 1999.

 

Dyma atebion y Prif Weinidog i gwestiynau Gweiddi:

1. Sut dechreuodd eich diddordeb chi mewn gwleidyddiaeth?

Yn ystod Streic y Glowyr ym 1984. Roedd cefndir glofaol gan fy nheulu ac roeddwn i’n grac iawn gyda’r Llywodraeth Geidwadol yr adeg honno.

2. Beth oedd eich oed ar y pryd?

17. Roeddwn i yn y Chweched Dosbarth.

3. Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi’i gyflawni fel gwleidydd a Phrif Weinidog?

Y Ddeddf Rhoi Organau. Bydd ’na lawer o fywydau yn cael eu hachub o achos y gyfraith hon.

4. Beth yw’r peth gorau am fod yn Brif Weinidog Cymru?

Amrywiaeth y swydd. Rydych chi’n cwrdd â phobl ddiddorol ac yn gweld llefydd diddorol.

5. Beth yw’r peth gwaethaf am fod yn Brif Weinidog Cymru?

Yr amser mae’r swydd yn cymryd o’ch bywyd. Mae’n anodd cadw amser i’ch teulu.

6. Beth yw’r problemau mwyaf sy’n wynebu Cymru yn 2016?

Mae’r byd yn ansicr ar hyn o bryd a bydd ’na heriau i Gymru ac i bob gwlad yn y dyfodol heb weld mwy o gryfder yn economi’r byd.

7. Beth yw eich uchelgais ar gyfer Cymru?

Rydw i eisiau gweld gwlad sy’n dal i ennill buddsoddiad a swyddi i’n pobl. Trwy hyn gallwn ni godi hyder ein pobl. Does dim rheswm i ni feddwl ein bod ni’n methu bod gyda’r gorau yn y byd.

8. Fyddech chi o blaid rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed? Pam?

Rydw i o blaid pleidlais i bobl 16 oed. Os ydych chi’n medru talu trethi, gweithio ac ymuno â’r lluoedd arfog, pam ddim pleidleisio? 

9. Beth rydych chi’n gallu ei weld drwy ffenestr eich swyddfa?

Canolfan Mileniwm Cymru. Ar un adeg roedd hi’n bosib gweld Stadiwm Principality ond mae’r Ganolfan yn y ffordd nawr!

10. Beth roeddech chi’n hoffi ei ddarllen pan oeddech chi’n ifanc?

Llyfrau ffuglen a hanes.  Llyfrau Willard Price a’r ‘Three Investigators’. Darllenais i lyfr o’r enw Kings and Things yn ifanc iawn a sbardunodd hwn ddiddordeb mewn hanes. Dydy’r llyfr hwn ddim yn ‘wleidyddol gywir’ yn yr oes hon!

11. Beth oedd eich diddordebau pan oeddech chi’n ifanc?

Darllen a chwaraeon. Rygbi, pêl-droed, criced, nofio. Bron popeth!

12. Beth yw eich diddordebau nawr, os oes amser gyda chi ar gyfer diddordebau?

Amser yw’r broblem! Cerdded, ambell gêm o golff. Ond fel rheol, gwasanaeth tacsi ydw i i’r plant!

13. Ble mae eich hoff fannau yng Nghymru?

Castell Carreg Cennen yn y de. Ddim yn bell o Ddyffryn Aman.

Aberaeron yn y Canolbarth. Rydw i’n hoff iawn o’r ardal honno o Geredigion.

Copa’r Wyddfa yn y Gogledd. Rydw i wedi cerdded lan sawl gwaith a phan mae’n glir mae 'na olygfa hyfryd.

14. Beth fyddai eich cyngor i berson ifanc sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth?

Dilynwch y diddordeb, ond gwnewch rywbeth arall i gael profiad eang cyn mynd mewn i wleidyddiaeth yn llawn amser. Wnes i hyn drwy weithio fel bargyfreithiwr am ddeng mlynedd. Profiad ardderchog cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.

15. Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl nad yw gwleidyddiaeth yn bwysig?

Heb bleidlais, heb lais!