Dyma beth o’r hanes ar fydr ac odl:
1.
Cyn deddf un naw un wyth,
Y rhai a gâi bleidleisio
Oedd dynion cefnog oedd â thŷ
Neu ragor fyth o eiddo.
2.
Dim pleidlais, felly i’r rhai
Oedd wrthi yn llafurio
Mewn caeau neu mewn pwll glo dwfn,
A bu ’na gryn brotestio.
3.
Fe aeth menywod dewr
I fynnu cael y bleidlais,
Swffragetiaid oedden nhw:
A mawr oedd eu huchelgais.
4.
Drwy’r rhyfel cas a hir,
Fe fu ein harwresau
Yn chwysu mewn ffatrïoedd mawr,
Yn gweithio gydag arfau.
5.
Pan ddaeth y brwydro i ben,
Fe roddwyd i bob dynes
Oedd yn dri deg oed, un bleidlais fach;
A dyna ran o’r hanes.
6.
Doedd hynny ddim ’run fath
Â’r dynion gâi bleidleisio
Yn ddau ddeg un, ond yn y man
Ca’dd hynny ei gywiro.
7.
’Mhen degawd rhoddwyd hawl
I ferched fynd i’r bythau
Pan oeddent hwythau’n ddau ddeg un,
A mawr oedd y dathliadau.
8.
Ym mil naw chwe deg naw,
Gostyngwyd yr oed eto;
A nawr caiff pawb sy’n un deg wyth
Fynd ati i bleidleisio.
9.
Ac felly, pan fydd rhai
Yn dweud, “Dwi ddim yn hidio
Am fwrw ’mhleidlais y tro hwn.”
Mi fyddaf innau’n gwylltio.