Teulu hapus

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Teulu hapus

Ydy dy dad di’n hen ffasiwn?

Ydy dy fam di’n mynnu cael ei ffordd ei hun?

Ydy dy frawd di’n mynd ar dy nerfau?

Ydy dy chwaer di’n boen?

Pan fyddan nhw’n dy wylltio di, beth fyddi di’n ei wneud? Codi dy ddyrnau? Gweiddi a sgrechian? Neu wyt ti’n rhedeg o’r ystafell gan fangio’r drws ar dy ôl di cyn taranu i fyny’r grisiau i’r ystafell wely?

Efallai dy fod ti’n ceisio gwella’r sefyllfa?

Ydych chi fel teulu’n ceisio dod yn fwy clòs? Ydych chi’n ymdrechu i fod yn ‘Deulu Hapus’?

Ymddangosodd y deg syniad yma ar gael hwyl gyda’r teulu yn y cylchgrawn ‘Happy Families’ yn ddiweddar.

Cael hwyl gyda’r teulu – rhai syniadau

1. Noson yn gwylio ffilmArticle Body

Gwylio ffilm, archebu pitsa, gwneud popcorn. Yr unig broblem ydy cytuno pa ffilm i’w gwylio – un fydd yn addas ar gyfer plant bach a phobl ifanc ac oedolion.

 

2. Pan mae’n bwrw eira

Pawb i fynd allan i wneud dyn eira neu fynd am dro fel teulu. Wedyn, clirio llwybr yn yr eira!

 

3. Darllen papur dydd Sul a bwyta brecwast arbennig yr un pryd

Gwneud i amser brecwast barhau am amser hir – neu fynd allan am frecwast. Ymlacio a thrafod beth sydd yn y papur newydd.

 

4. Prynu pwdin arbennig

Cael dathliadau bach teuluol ar adegau sydd ddim yn ben-blwyddi e.e. pan fydd un o’r teulu wedi cael marc uchel mewn prawf neu pan fydd un o’r teulu wedi llwyddo i beidio â chodi’n hwyr am wythnos! Dathlu gyda chanhwyllau neu gacen gydag ysgrifen arni!

 

5. Eistedd gyda’ch gilydd yn edrych ar hen luniau neu wylio ffilm/DVD o’r teulu

Mae hyn yn ffordd dda o ail-fyw profiadau’r gorffennol. Efallai byddwch chi’n chwerthin am y dillad a’r steil gwallt! Mae’n gyfle i aelodau’r teulu brofocio’i gilydd.

 

6. Chwarae golff

Mae golff a golff bach yn enghreifftiau o chwaraeon gallwch chi eu chwarae fel unigolyn a gyda’ch gilydd.

 

7. Chwaraeon bwrdd

Mae chwarae cardiau, dominos, ludo, monopoly ac ati’n ffordd dda o gael hwyl gyda’ch gilydd.

 

8. Coginio fel teulu

Mae hyn yn gorfodi teulu i fod gyda’i gilydd a rhannu dyletswyddau e.e. un i baratoi pwdin, un i osod y bwrdd ac ati.

 

9. Cydweithio ar brosiect

Mae gwneud pethau gyda’ch gilydd o gwmpas y tŷ, e.e. clirio’r garej, pacio pethau yn yr atig, ail-drefnu’r ardd, yn dod â theulu yn nes at ei gilydd am eu bod nhw’n gwneud rhywbeth sydd angen ei wneud.

 

10. Mynd am dro - cerdded neu yn y car

Mae’n haws siarad am broblemau wrth deithio neu gerdded oherwydd fyddwch chi ddim yn wynebu’ch gilydd.