Gwyliau Ysgol

Rhifyn 37 - Medi
Gwyliau Ysgol

GWYLIAU! GWYLIAU! GWYLIAU!

Nôl yn yr ysgol unwaith eto! Sut oeddech chi’n teimlo erbyn diwedd gwyliau’r haf?  Blin? Siomedig? Neu oeddech chi wedi diflasu? Yn ysu am gael mynd yn ôl i’r ysgol? Ydy saith wythnos o wyliau yn rhy hir? Ydych chi wedi anghofio popeth ddysgoch chi yn yr ysgol llynedd?

Mae rhai yn dadlau y dylid cael PEDWAR tymor ysgol yn lle TRI. Gwnewch eich symiau ac fe gewch chi 4 tymor o 10 wythnos yr un = 40 wythnos a 3 wythnos o wyliau rhwng pob tymor = 52 wythnos. Yr un faint o wyliau ond bod pob un yn gyfartal.

Un fantais enfawr yw y byddai gwyliau i deuluoedd yn rhatach.

Am y tair blynedd ddiwethaf yn Lloegr roedd rhieni yn cael dirwy am dynnu eu plant o’r ysgol i fynd ar wyliau. Ond bydd pethau’n newid ym mis Medi 2016. Ymddangosodd yr erthygl hon mewn papur newydd yn ddiweddar.

YSGOLION I NEWID DYDDIADAU TYMHORAU I ALLUOGI TEULUOEDD I GAEL GWYLIAU RHATACH

Mae mwy na 60,000 o deuluoedd wedi cael dirwy am fynd â’u plant am wyliau yn ystod tymor ysgol.

Mae gwyliau 40% yn ddrutach yn ystod gwyliau ysgol a tan fis Medi 2013 roedd gan benaethiaid ysgolion yn Lloegr yr hawl i ganiatáu hyd at 10 diwrnod o wyliau yn ystod amser ysgol. Wedi i’r rheol gael ei newid cafodd tua 60,000 o deuluoedd eu dirwyo am fynd â’u plant ar wyliau, i briodasau ac i angladdau. Mae dwsinau o rieni wedi cael eu dyfarnu yn euog o beidio â thalu’r ddirwy o £60 y plentyn oedd yn codi i £120 os nad oedd yn cael ei dalu o fewn 21 diwrnod. 3 mis o garchar a dirwy o £2,500 oedd y ddedfryd am beidio â thalu’r ddirwy o gwbl.

O fis Medi 2016, fodd bynnag, bydd gan benaethiaid yr hawl i newid amser tymhorau ysgol. Mae mwy na 70% o benaethiaid ysgolion yn Lloegr wedi dweud y byddant yn ystyried gwneud newidiadau fydd yn caniatáu i deuluoedd fwynhau gwyliau mwy fforddiadwy a mynychu gwyliau crefyddol a diwylliannol.

Bu cryn ddadlau ynglŷn â phenderfyniad y llywodraeth yn Lloegr i wahardd absenoldebau o’r ysgol os nad oeddent o dan ‘amgylchiadau eithriadol’. Nid oedd mynd ar wyliau yn amgylchiad o’r fath.

Mae lle i gredu, fodd bynnag, y bydd cwmnїau teithio yn newid eu prisiau i gyd-fynd â’r newidiadau yn amseroedd gwyliau ysgol. Dywed un adroddiad,  'Bydd y farchnad wyliau yn newid fel y bydd ysgolion yn newid eu hamserlen.

Nid prisiau gwyliau yw’r unig beth sy’n poeni addysgwyr am wyliau ysgol. Gan fod gwyliau’r haf mor hir mae perygl i ddisgyblion anghofio rhai sgiliau oherwydd nad ydynt wedi eu hymarfer am 6 i 7 wythnos. Mae disgyblion yn perfformio’n waeth mewn profion ym mis Medi nag yn yr un profion y mis Mehefin cynt.

 

YR AWDURDODAU ADDYSG A RODDODD Y FWYAF O DDIRWYON 2013-2014

 

  1. Swydd Gaerhirfryn - 3,106 - cynnydd o 176%
  2. Caint - 2,973 – cynnydd o 3%
  3. Caerwrangon - 2,728 – dim newid
  4. Gorllewin Sussex - 2,403 – cynnydd o 146 %
  5. Luton - 2,249 – cynnydd o 61%
  6. Oldham - 2,022 – cynnydd o 69%
  7. Manceinion - 1,911 – cynnydd o 54%
  8. Dwyrain Sussex - 1,756 – cynnydd o 41%
  9. Swydd Efrog - 1,594 – cynnydd o 49%
  10. Doncaster - 1,464 – cynnydd o 132%

 

Pan aeth Stewart a Natasha Sutherland ar wyliau i Rhodes cawsant ddirwy o £1,000.

Yn ei araith danbaid dywedodd Mr Sutherland, sy’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ‘Doedd gennym ni ddim dewis ond pledio’n euog. Fel arall byddai fy ngwraig a fi yn y carchar. Byddai hynny’n llawer mwy niweidiol i addysg ein plant nag wythnos o wyliau. Mae’r sefyllfa yn hollol annheg. Mae’r gwaith rydw i’n ei wneud yn sensitif a rhaid cadw nifer y staff yn uchel. Pe bai pob gweithiwr yn y wlad yn cymryd gwyliau yn ystod gwyliau ysgol byddai’n draed moch yma. Rydw i’n cael fy nhrin fel drwgweithredwr dim ond am fynd â’m plant ar wyliau.’

PRISIAU GWYLIAU

Playa Melonaras Palace, Gran Canaria

Mae’r prisiau am y flwyddyn 2016 yn cychwyn o

 

Nifer o nosweithiau 7 14
01 Mai - 25 Mai £739 1205
26 Mai - 30 Mai £935 1285
31 Mai - 8 Meh £805 1265
9 Meh - 22 Meh £795 1275
23 Meh - 29 Meh £799 1325
30 Meh - 6 Gorff £869 1375
7 Gorff - 14 Gorff £895 £1429
15 Gorff - 21 Gorff £999 £1565
22 Gorff - 18 Awst £999 £1615
19 Awst – 22 Awst £1099 £1619
23 Awst – 28 Awst £1059 £1429
29 Awst - 6 Medi £885 £1379
7 Medi – 20 Medi £859 £1369
21 Medi – 19 Hydref £895 £1415
20 Hydref – 25 Hydref £1025 £1465
26 Hydref – 31 Hydref £945 £1455
Plant o dan 12 oed. Dyma’r pris cychwynnol. £529 £779

 

Sylwadau:

Mae sawl rheswm dros adael i blentyn golli ysgol a dydy cosbi rhieni ddim yn esiampl dda.

 

Marjory Gill

Fel ffermwr fe fyddwn i’n croesawu newid amser tymhorau ysgol. Mae gen i ddau fab sy’n fy helpu adeg cynhaeaf gwair ym mis Mehefin a Gorffennaf ond maen nhw yn yr ysgol! A beth bynnag, onid ydy’r tywydd yn well bryd hynny nac ym mis Awst? Rydw i’n siwr mai dyna’r mis mwyaf gwlyb trwy’r haf!

Kenneth Morris

Mae canlyniadau Lefel A a TGAU wedi cael eu cyhoeddi! Mae dyfodol disglair i’r rhai gafodd y graddau uchaf. ADDYSG! Yr allwedd hud i lwyddiant! Dyna pam mae’n rhaid i bob disgybl fynychu’r ysgol mor rheolaidd â stopwatch yn y Gemau Olympaidd! Druan ohonynt! Mae addysg yn eu troi'n robotiaid!

Mae tuedd i feddwl mai dau fath o deulu sydd yn debygol o fod mewn helynt am beidio ag anfon eu plant i’r ysgol. Y math cyntaf yw’r teulu sy’n byw ar fudd-daliadau, y rhai sydd ddim yn trafferthu i godi yn y bore i anfon eu plant i’r ysgol. Mae’n ddigon hawdd cosbi’r rhain trwy dynnu’r dirwy o’u budd-daliadau.

Yr ail fath yw’r rhai sy’n tynnu eu plant o’r ysgol er mwyn mynd â nhw i Fflorida am bythefnos. Yn ystod tymor ysgol ydy’r unig amser maen nhw’n gallu ei fforddio. Ydy’r plant yn dysgu mwy yn Fflorida nag a fyddent yn yr ysgol? Os yw’r rhieni yn cael eu dirwyo pam trafferthu mynd ar wyliau rhatach?

Megan Evans

Mae rhieni sy’n mynd â’u plant ar wyliau ysgol yn ystod amser ysgol yn haeddu cael eu cosbi. Os ydyn nhw mor awyddus i fynd ar wyliau pam na wnân nhw roi addysg yn y cartref i’w plant? Byddent felly yn rhydd i ddewis gwyliau pryd bynnag hoffen nhw a gallent barhau i addysgu eu plant tra oddi cartref.

Michael Thomas

Diolch byth nad ydy Cynulliad Cymru wedi penderfynu cosbi rhieni am fynd â’u plant ar wyliau yn ystod tymor ysgol. Yr hyn sy’n fy mhoeni i ynglŷn â newid tymhorau ydy y gallen ni fethu â mynd i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd!

Maldwyn Price

A beth am Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol? Does dim 10 wythnos rhwng y rheini a’r Sioe Fawr! Fe fydda i’n mynd i bob un ohonyn nhw!

Sioned Wiliam

Sioned Wiliam

Mae’n anodd cadw plant yn ddiddig am 6 wythnos o wyliau ysgol. Gellir gwneud pethau sydd ddim yn costio llawer am gyfnod byr ond buan mae plant yn diflasu ar hynny ac yn cwyno eisiau gwneud pethau mwy cyffrous.

Eryl Price

Yn ein pentref ni rydyn ni’n cael llawer o drafferth yn ystod gwyliau ysgol – plant yn fandaleiddio ac yn cicio’u sodlau. A does dim byd gwaeth na gweld plant hŷn yn gofalu am frawd neu chwaer fach ac yn eu llusgo gyda nhw i wneud drygioni.