Tŷ ar ei ben ei hun, yng nghanol cefn gwlad Cymru
Yr ardal:
Mae’r tŷ mewn lleoliad ardderchog, wrth ochr y B456, y ffordd sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir, ac felly mae ganddo olygfa anhygoel o’r môr. Mae’r tŷ o fewn pum munud i’r dref mewn car, ac felly mae’n hawdd cyrraedd yr ysgolion, y siopau, yr ysbyty, y theatr a’r sinema. Mae gwasanaeth bysiau rheolaidd.
Y tŷ
Lawr llawr: ystafell fyw fawr, gyda ffenestri llydan sy’n edrych dros y môr; cegin; tŷ bach a chyntedd
I fyny’r grisiau: dwy ystafell wely fawr, ystafell ymolchi a thŷ bach ar wahân
Mae hwn yn dŷ eco:
Tu allan
Digon o dir ar gyfer creu gardd ac adeiladu garej
Pris: £450 000
Brysiwch. Mae llawer o ddiddordeb yn y tŷ hwn ac felly y cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
lleoliad | lle | position |
golygfa | yr hyn sydd i’w weld | scenery |
cyntedd | yr ystafell gyntaf mewn rhai tai; weithiau mae pobl yn hongian cotiau yma | hallway |
ar wahân | ar ei ben ei hun | separate |
lleol | yn yr ardal | local |
ynysu | cadw’r gwres i mewn a’r oerfel allan yn y gaeaf; cadw’r gwres allan er mwyn cadw’r tu mewn yn oeraidd yn yr haf | to insulate |
gwydro triphlyg | tair haen o wydr | triple glazing |
y cyntaf i’r felin gaiff falu | y cyntaf fydd yn llwyddo – y person cyntaf i gynnig pris teg am y tŷ fydd yn ei gael | first come first served |