Dw i wedi cael llond bol!
Beth sy wedi digwydd nawr?
Dyn ni newydd gael andros o ffrae. Dwedais i fy mod i isie treulio’r prynhawn yn fy ystafell wely ac yna ffrwydrodd Mam.
Pam?
Mae hi’n dweud ’mod i’n treulio mwy o amser yn fy ystafell wely yn siarad â fy ffrindiau ar-lein nag ydw i gyda’r teulu.
Ydy hynny’n wir?
Efallai – ond rhaid i fi gael amser i fi fy hun neu bydda i’n mynd yn boncyrs. Dw i ddim isie hongian o gwmpas gyda’r teulu drwy’r amser.
Cofia, mae’n anodd i dy fam – mae hi isie dy gwmni di hefyd.
Ydy, ond yn ystod y ffrae, dechreuodd hi feirniadu fy nillad i, beth dw i’n ei fwyta a fy ffrindiau i hefyd.
O?
Mae fy nillad i’n “anniben”. Dw i ddim yn bwyta digon o fwyd “iach” ac mae fy ffrindiau i’n “ddylanwad drwg” arna i.
Diolch yn fawr!!!
Doedd hi ddim yn meddwl amdanat ti.
Diolch am hynny! Mae hyn yn anodd i dy fam, cofia.
Rwyt ti newydd ddweud hynna.
Wel, tan nawr mae hi wedi bod yn gwneud y penderfyniadau i gyd i ti – beth rwyt ti’n wisgo ac yn bwyta, ble rwyt ti’n mynd, faint o arian poced rwyt ti’n gael. Nawr, mae pethau’n wahanol. Rwyt ti isie gwneud dy benderfyniadau dy hun. Rwyt ti’n lwcus mewn un peth.
Beth?
Dydy hi ddim yn swnian wrthot ti am faint o waith ysgol rwyt ti’n wneud. Dyna dw i’n ei gael bob dydd a bob nos. “Rwyt ti’n treulio gormod o amser ar y cyfrifiadur. Dylet ti fod yn gwneud dy waith cartref.”
Dw i’n cael hynna hefyd – a “Dylet ti fod yn ffeindio gwaith rhan-amser.” Wel, dw i wedi cael llond bol y tro yma a dw i wedi gwneud penderfyniad.
Beth?
O, na! Rhaid i fi fynd. Wnawn ni siarad nes ymlaen.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
wedi cael llond bol | wedi cael digon | to have had a bellyful, to have had enough |
Dyn ni newydd gael andros o ffrae. | Rydyn ni newydd fod yn ffraeo / cweryla’n ofnadwy. | We’ve just had a huge quarrel. |
ffrwydro | chwythu i fyny | to explode |
swnian | cwyno o hyd | to nag |