Baguette neu custard slice?

Rhifyn 39 - Teg edrych tuag adre
Baguette neu custard slice?

Dyna ble roeddwn i yng nghanol cannoedd o deithwyr – rhai mewn siwtiau smart, yn cario cesys dogfennau, yn gwibio heibio, yn gwybod yn union i ble roedden nhw’n mynd; rhai teuluoedd mewn dillad gwyliau yn llusgo cesys, yn ymlwybro tuag at y siopau bwyd parod a rhai’n sefyll yn llonydd, yn edrych i fyny ar y sgriniau du enfawr, yn ceisio gweld pryd byddai eu trenau’n gadael.

 

Cannoedd o bobl – o bob lliw a llun – yn siarad ieithoedd gwahanol. Ychydig o Ffrangeg fan hyn ... ychydig o Fandarin fan acw ... môr o Saesneg ym mhob man ac yna, yn sydyn, fe’u clywais i nhw ... teulu bach o Gymru yn siarad iaith y nefoedd yn sefyll o flaen siop fara a chacennau, yn wynebu’r sgrin fawr.  Dyma fy nghyfle!

 

“Dach chi’n dod o Gymru?” gofynnais i’n hyderus.

“Ydyn,” atebodd y dyn, gan edrych yn amheus ar fy nillad budr, tyllog a ‘ngwallt clymog.

“Wedi bod i’r brifddinas am y penwythnos?” gofynnais i wedyn.

“Ie, dyna ni,” atebodd y tad eto. Roedd ei lygaid yn canolbwyntio ar y briwiau ar fy mraich.

 

Erbyn hyn roedd ei wraig a’r ddau blentyn yn edrych arna i. 

“Oes gynnoch chi ychydig o bres sbâr i’m helpu i, os gwelwch yn dda? Mae byw yn y ddinas yn ddrud. Does gen i ddim bwyd ... a dyma’r unig bethau sy gen i,” dywedais, gan ddangos fy rycsac budr, blêr.

“Pres?” gofynnodd y dyn. “Mmm ... wel ... gawn ni weld ...” dywedodd, yn ceisio penderfynu oedd o’n mynd i roi ychydig bunnoedd – neu geiniogau – i mi.

“Gawn ni weld?” meddyliais i’n ddig. Roedd o’n sefyll yn dalog gyda’i deulu, mewn dillad trwsiadus glân, ar ôl cael cinio mawr, mae’n siwr, ond roeddwn i yno heb ddim – dim teulu,dim bwyd, dim cartref! Dim byd!

“Pres?” dywedodd o eto. “Na, does gen i ddim pres, ond gan eich bod chi’n siarad Cymraeg, dewch efo fi.”

Trodd y dyn at y siop tu ôl iddo.  “Brechdan – a phaned o de?” cynigiodd.

O, wel, gwell na dim, meddyliais i. “Brechdan? Na, dim diolch. Mi gymra i custard slice os gwelwch yn dda.”

Custard slice? Ond byddai brechdan yn well i chi – edrychwch:baguette ham a salad mawr, blasus, er mwyn i chi gael fitaminau a phrotein.  Bydd hi’n eich llenwi chi’n well na custard slice!”

Custard slice,” dywedais eto – yn fwy pendant y tro hwn. “Os gwelwch yn dda!”

“O, wel, custard slice amdani,” ildiodd y dyn pan welodd nad oeddwn i am newid fy meddwl.

“A photelaid o ddŵr oer glân, os gwelwch yn dda,”  ychwanegais i.

“Dyma chi!” Cymerais i’r custard slice yn awchus. Yna, sylwais ar y ddelwedd o fynyddoedd gwyrdd a nentydd clir Cymru ar label y botel ddŵr a daeth lwmp i ’ngwddw.

“Ein trên ni,” gwaeddodd y fam, gan bwyntio at y sgrin fawr. “Dewch.”

Yna, dyma’r teulu’n codi eu bagiau ac yn ei heglu hi am y trên, a minnau’n sefyll yn llonydd, yn dal custard slice â deigryn yn llifo i lawr fy moch, yn eu gwylio nhw’n dychwelyd i’w cartref a’u gwlad.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dogfennau lluosog dogfen: llythyrau, ffurflenni, adroddiadau ac ati - gwaith papur documents
ymlwybro cerdded yn araf to wander slowly
yn amheus ddim yn siŵr suspiciously
tyllog ansoddair yn gysylltiedig â twll; yn cynnwys tyllau full of holes
clymog ansoddair yn gysylltiedig â cwlwm a clymu; yn cynnwys lymau knotted
trwsiadus taclus tidy, smart
ildio rhoi i mewn to give in
yn awchus yn awyddus iawn, yn farus bron eagerly, greedily
delwedd llun, symbol image
ei hel hi cychwyn / dechrau i ffwrdd yn gyflym to set off quickly