Helo.
Dw i’n cael amser da yma gyda Rhys.
Mae ei gartref newydd yn Llundain yn ddiddorol iawn. Tu allan, mae’n lliwgar ac mae ffenestri crwn yn y waliau. Efallai mai “clyd” yw’r gair gorau i’w ddisgrifio. Tu mewn, mae’n fach ond mae popeth yma – ystafell wely ddwbl, lolfa (lle dw i’n cysgu ar y soffa!), cegin / ystafell fwyta ac ystafell ymolchi fach iawn. Talodd o £40 500 amdano ac mae o’n meddwl ei fod o wedi cael bargen! Mae llun yn yr atodiad.
Anodd credu bod ei gartref wedi teithio o gwmpas y byd yn cario offer trydanol unwaith. Mae’n gartref gwyrdd iawn achos mae o wedi cael ei wneud drwy ailgylchu rhywbeth arall!
Mae o’n byw yn agos i’r afon ac felly mae’n lle braf iawn i gerdded ar ôl swper. Mae bws yn mynd heibio bob deg munud, felly mae teithio i mewn i’r ddinas yn hawdd.
Mae Rhys yn anfon ei gariad ac yn edrych ymlaen at ddod adre dros y penwythnos. Mae o’n dweud bydd o’n dod â llwyth o ddillad budr i ti eu golchi, Mam. Neis iawn!
Wela i chi nos Sul – bydd y trên yn cyrraedd Caer am wyth o’r gloch.
Cariad
Lois
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
crwn | fel cylch | round |
atodiad | ffeil sy’n cael ei ychwanegu at e-bost | attachment |
offer trydanol | peiriannau sy’n defnyddio trydan | electrical equipment |