Beth ar y ddaear …?

Rhifyn 39 - Teg edrych tuag adre
Beth ar y ddaear …?

Edrychwch ar y sioe sleidiau yma ac yna ewch i Dasg 1.

Mae rhai pobl yn byw mewn lleoedd diddorol iawn – ar ben mynyddoedd, mewn ogofâu, o dan y ddaear, hyd yn oed ar ganol cylchfan. Mae rhai pobl yn byw yn y gofod yn yr orsaf wyddonol ryngwladol hefyd.

 

Wel, beth am y syniad o fyw o dan y môr? Mae pobl yn bwyta o dan y môr ac yn mynd ar eu gwyliau o dan y môr eisoes, fel mae’r sleidiau’n dangos. Felly mae’n siŵr bod byw o dan y môr yn bosib hefyd.

 

Mae’r syniad yn dod yn eitha poblogaidd mewn rhai rhannau o’r byd – yn enwedig yn y Dwyrain Canol.  Yn Dubai, er enghraifft, mae tai rhyfeddol yn cael eu cynllunio.

 

Mae tair lefel i’r tai hyn:

  • o dan y môr
  • ar lefel y môr
  • y llawr uchaf.

 

Beth sydd ar bob lefel?

 

O dan y môr: 

  • y brif ystafell wely
  • ystafell ymolchi
  • ffenestri o’r llawr i’r nenfwd er mwyn medru gweld y pysgod a’r bywyd o dan y môr

 

Ar lefel y môr

  • ystafelloedd gwely
  • ystafell ymolchi
  • ystafell fyw gyda man bwyta
  • cegin

 

Y llawr uchaf

  • ystafell wely
  • bath arbennig lle mae’r dŵr yn chwyrlïo o’ch cwmpas

 

 

Gan fod y cartrefi tua dwy filltir a hanner o’r lan, rhaid teithio ar gwch neu awyren fach i’w cyrraedd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ogofâu lluosog ogof: tyllau mawr mewn creigiau caves
cylchfan ynys ar ffurf cylch lle mae nifer o ffyrdd yn dod at ei gilydd roundabout
yr orsaf wyddonol ryngwladol gorsaf yn y gofod lle mae gwyddonwyr yn cynnal arbrofion the international space station
am gyfnodau am beth amser for periods of time
rhyfeddol arbennig iawn, iawn wonderful, amazing
nenfwd to’r ystafell ceiling
chwyrlïo troi o gwmpas yn gryf, troelli to whirl